En
Morgan Upcott - young pastry chef of the year finalist

Morgan yn Cyrraedd Rownd Gyn-Derfynol Cogydd Crwst Ifanc y Flwyddyn


21 Mai 2021

Ynghyd â Chystadleuaeth Sgiliau Cymru ac WorldSkills UK, rydym yn annog ein dysgwyr i gymryd rhan mewn cystadlaethau o fewn eu diwydiannau i’w gwthio at y lefel nesaf a gwella eu sgiliau. Felly, pan welodd Morgan Upcott, dysgwr Coginio Proffesiynol Lefel 2, gystadleuaeth ‘Cogydd Crwst Ifanc y Flwyddyn’ Fforwm y Cogyddion, aeth ati’n syth i ddangos iddynt ei dalentau yn yr adran felysion.

Mae Morgan erioed wedi mwynhau gweithio gyda bwyd ers pan oedd yn ifanc iawn, ac eisiau troi ei ddiddordeb yn yrfa llawn amser. Dewisodd gwrs Coginio Proffesiynol Coleg Gwent am ei gyfraddau llwyddo rhagorol, cyfleusterau arbennig, a’r elfen gystadleuol a oedd yn apelio iddo. Mae’n mwynhau elfen ymarferol y cwrs yn enwedig, sy’n rhoi cyfle iddo fod yn ymarferol a bod yn greadigol gyda bwyd.

Wrth i’w sgiliau barhau i ddatblygu a gwella, mae Morgan yn anelu i barhau i ddatblygu gyrfa lwyddiannus yn y Celfyddydau Coginio – sector creadigol a gwerth chweil. Mae ein cwrs Coginio Proffesiynol wedi rhoi sylfaen gadarn iddo mewn ystod o ddisgyblaethau coginio, gyda mynediad at gyfleusterau safon diwydiant, addysg gan diwtoriaid arbenigol a chysur cymorth ar hyd y ffordd. Ac yn ystod ei astudiaethau hyd yn hyn, mae Morgan wedi rhagori mewn crwst, adran sy’n profi prinder o gogyddion ifanc talentog yn y DU. Felly roedd y cyfle i fynd â’i sgiliau melysion at lefel gystadleuaeth yn gyfle cyffrous.

Mae cystadleuaeth ‘Cogydd Crwst Ifanc y Flwyddyn’ Fforwm y Cogyddion yn dathlu creadigrwydd cogyddion crwst ifanc hynod dalentog a’r cyfleusterau arbennig sydd ar gael iddynt yn y coleg i ddatblygu prydau bwyd blasus a meithrin eu talentau. Yn cystadlu yn erbyn cogyddion ifanc o ledled y DU, wynebodd Morgan ddwy rownd ymgysylltiol a gwerth chweil wedi’u dylunio i ysbrydoli myfyrwyr ar ôl cyfnod anodd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Defnyddiodd yr holl sgiliau a gwybodaeth mae wedi’u hennill yn ystod ei gwrs coginio hyd yn hyn, ac wedi llwyddo yn y rowndiau cyntaf i arddangos ei dalentau ac ennill lle yn y rownd gyn-derfynol.

Morgan Upcott - young pastry chef of the year finalist

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd Morgan nawr yn cystadlu yn erbyn 19 cogydd arall yn y rownd gyn-derfynol o golegau ledled y DU, fel yr unig un o goleg o Gymru i gyrraedd y rownd gyn-derfynol. Mae pob cogydd yn y rownd gyn-derfynol wedi cael manylion yr her nesaf, sef dylunio entremet siocled sawl haen i’w gyflwyno’n ddigidol, a bydd y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu beirniadu yn Llundain ar 15 Mehefin.  Mae’r beirniaid yn cynnwys rhai o gogyddion mwyaf nodedig y wlad:

  • Jamie Houghton – Le Manoir aux Quat’Saisons a Llywydd Tîm Crwst y DU
  • Luke Frost – L’École Gourmet
  • Chris Underwood – Belmond Cadogan Hotel
  • Thibaut Hauchard – Alain Ducasse at The Dorchester
  • Michael Kwan – Hotel Café Royal
  • Daniel Pearse – The Savoy

Mae pawb yn Coleg Gwent yn dymuno’r gorau i Morgan yn rownd derfynol y gystadleuaeth glodfawr hon. Mae wedi bod yn brofiad gwerthfawr i Morgan, yn rhoi hwb i’w hyder ac yn ei arfogi gyda hyd yn oed mwy o sgiliau ar gyfer gyrfa lwyddiannus fel Cogydd Crwst.

Dywedodd Morgan; “Pan gewch y cyfle, ewch amdani! Mae’r Digwyddiadau Agored yn Coleg Gwent yn arbennig, ac mae’r gefnogaeth yn ystod y cwrs yn dda iawn, ar gyfer amgylchedd cystadleuol yn ogystal ag amgylchedd gwaith. Rwyf nawr eisiau parhau â hyn a symud ymlaen gyda fy ngwaith melysion.”

Dysgwch fwy am ein cyrsiau Coginio Proffesiynol ar Gampws Crosskeys a gwnewch gais nawr i ymuno â ni fis Medi i lwyddo yn eich gyrfa hefyd!