
DIGWYDDIAD AGORED RHITHWIR
Ymunwch â ni am ein digwyddiad byw llawn amser a mynediad i brifysgol ar Dydd Sadwrn 20fed Mawrth am 10yb a 11yb.
Ydych chi'n ystyried dod i'r coleg neu astudio cwrs prifysgol?
Gall dewis y cwrs a llwybr gyrfaol iawn fod yn frawychus ac yn eithaf dryslyd. Pa un ai eich bod yn edrych ar gyrsiau Safon Uwch, cyrsiau galwedigaethol, prentisiaethau, neu cyrsiau addysg uwch, mae gan Coleg Gwent rhywbeth at ddant pawb, a’r ffordd orau i ddysgu’r cyfan sydd ei angen arnoch a chael atebion i’w cwestiynau sydd gennych yw Digwyddiad Agored.
Rydym hefyd yn mynychu ystod o ddigwyddiadau cymunedol yn ystod y flwyddyn, felly cofiwch chwilio am stondin Coleg Gwent i ddysgu mwy am astudio gyda ni, a’r hyn sydd gennym ar eich cyfer. Ond eleni, oherwydd Cyfyngiadau COVID, nid ydym yn gallu mynychu digwyddiadau cymunedol, ond gallwch ddysgu mwy am gyrsiau a bywyd yn y coleg drwy ein Digwyddiadau Agored Rhithwir.
Digwyddiadau Agored ar y Campws
Rydym yn cynnal cyfres o Ddigwyddiadau Agored ar eich cyfer drwy gydol y flwyddyn. Noder, nid yw Digwyddiadau ar y Campws ar gael ar hyn o bryd oherwydd Cyfyngiadau COVID-19, ond gallwch ddysgu mwy am gyrsiau a bywyd yn y coleg drwy ein Digwyddiadau Agored Rhithwir Byw.
Digwyddiadau Agored Rhithwir Byw
Yn ystod ein Digwyddiadau Agored Rhithwir Byw, cewch glywed gan ein tiwtoriaid mewn ystafelloedd sgwrsio maes pwnc, a gallwch gysylltu â nhw drwy sesiynau Holi ac Ateb ar ein llwyfan rhithiol, sydd ar gael 365 diwrnod o’r flwyddyn.
Yn ystod ein Digwyddiadau Agored Rhithwir Byw, gallwch archwilio Coleg Gwent o ddiogelwch a chysur eich cartref, gan gynnwys:
- Dysgu mwy am ein cyrsiau o weminarau gyda thiwtoriaid arbenigol
- Dysgu am yrfaoedd posib
- Cymryd cipolwg o’r campws a chyfleusterau o’r radd flaenaf drwy ein teithiau 360
- Cael gwybodaeth ynghylch cymorth ariannol a theithio
- Dysgu am y cymorth rydym yn ei gynnig
- Siarad â thiwtoriaid a staff cefnogi a gofyn cwestiynau mewn ystafelloedd sgwrsio Holi ac Ateb byw
- Ymgeisiwch ar-lein
Cynhelir gweminarau ein Digwyddiad Agored Byw mewn dwy sesiwn (cychwyn am 5pm a 6pm*), felly peidiwch â phoeni os ydych yn colli rhywbeth – gallwch fynychu’r sesiwn nesaf yn ddi-drafferth.
Y Sesiwn Gyntaf
5pm – Croeso i Coleg Gwent; bydd y cyflwynydd yn egluro’r digwyddiad agored rhithiol yn fras, a sut i lywio eich ffordd drwy’r digwyddiad.
5.15pm – Bydd ein gweminarau maes pwnc yn cychwyn, ac yn para oddeutu 20 munud. Yn ystafell sgwrsio ein gweminar byddwch yn gallu gofyn cymaint o gwestiynau ag yr hoffwch am bwnc penodol i’n tiwtoriaid cwrs profiadol.
5.40pm – Ein gweminarau ar Gyllid, Teithio a Chymorth yn cychwyn. Cewch ofyn cwestiynau o fewn ystafell sgwrsio’r gweminar yma hefyd.
Yr Ail Sesiwn
Bydd yr ail sesiwn yn cychwyn gan groesawu pawb am 6pm a bydd yr ail set o weminarau yn cychwyn am 6.15pm a 6.40pm.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr amserlen uchod, cysylltwch â’n tîm recriwtio myfyrwyr trwy helo@coleggwent.ac.uk.
Dyddiadau Digwyddiadau ar y Gweill
Nodwch y dyddiadau hyn yn eich dyddiadur, a pheidiwch â cholli ein Digwyddiadau Agored nesaf:

Digwyddiad Agored Llawn Amser Rhithwir
Lleoliad: Ar-lein

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Rhithwir
Lleoliad: Ar-lein

Digwyddiad Agored Llawn Amser Rhithwir
Lleoliad: Ar-lein

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Rhithwir
Lleoliad: Ar-lein

Digwyddiad Agored Llawn Amser Rhithwir
Lleoliad: Ar-lein

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Rhithwir
Lleoliad: Ar-lein

DIGWYDDIADAU AGORED RHITHWIR
Mae ein platfform digwyddiad agored ar gael
24 awr y dydd, 365 dydd y flwyddyn!