En
Catering, Hospitality & Tourism

Archwilio Gyrfa mewn Lletygarwch, Arlwyo a Thwristiaeth


13 Medi 2021

A wyddoch chi fod y gair ‘staycation’ wedi’i ychwanegu at y geiriadur Saesneg oherwydd y cynnydd yn y nifer ohonom yn mynd ar wyliau gartref? Dyma newyddion gwych i’r sector lletygarwch, arlwyo a thwristiaeth sydd wedi dioddef ergyd fawr yn sgil y pandemig, ond wrth iddo geisio dod yn ôl ar ei draed gyda’r cynnydd yn y nifer o bobl yn mynd ar wyliau gartref, mae’r sector yn wynebu heriau fel prinder staff a bylchau mewn sgiliau y mae angen i ni fynd i’r afael â nhw.

Cred Fred Sirieix, maître d’hôtel enwog o Ffrainc a sylfaenydd Diwrnod Cenedlaethol y Gweinyddion, mai staffio yw’r broblem fwyaf sy’n wynebu’r sector ar hyn o bryd. Rhannodd Drydar yn ddiweddar yn dweud;
“Staff and skills shortage in #hospitality is as acute as can be right now… No matter the business, sector or industry, #customer #service makes all the difference between success and failure. To deliver great service is about establishing trust and loyalty and thus longevity.”

Felly, gydag ymddiriedaeth mewn brand a ffyddlondeb yn allweddol ar gyfer llwyddo yn y sector lletygarwch, arlwyo a thwristiaeth, mae hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus i’r safon uchaf o wasanaeth cwsmer yn hollbwysig i helpu i fynd i’r afael â phrinder staff a sgiliau yn y diwydiant.

Dyma lle gallwn ni wneud gwahaniaeth!

Yn Coleg Gwent, mae ein tiwtoriaid yn arbenigwyr yn y meysydd yr addysgant ac rydym yn cynnig cyfleusterau hyfforddi eithriadol o dda, megis Bwyty Morels sy’n agored i’r cyhoedd – mae ein cyrsiau yn ffordd wych o sicrhau’ch llwyddiant. Os oes gennych ddawn greadigol yn y maes coginio, yn frwd dros ddigwyddiadau, neu wrth eich bodd â theithio, gallai’r sector hwn fod yn ddelfrydol i chi. Nid oes angen profiad arnoch i ymuno â nifer o’n cyrsiau – yn Coleg Gwent, gallwch ddechrau eich hyfforddiant ar lefel dechreuwyr a gweithio’r holl ffordd at lefel prifysgol, ac rydym yn cynnig prentisiaethau ymarferol fel y gallwch ennill cyflog wrth i chi ddysgu hefyd. Rydym yn cynnig cyrsiau Coginio Proffesiynol; Lletygarwch, Rheoli Digwyddiadau ac astudiaethau Arlwyo; a rhaglenni Teithio a Thwristiaeth; ac mae pob cwrs wedi’i ddylunio gyda chyflogadwyedd mewn golwg, felly byddwch yn ennill gwybodaeth o’r sector a sgiliau sy’n benodol i swydd ar gyfer eich gyrfa ddewisol.

Catering, Hospitality & Tourism

Bydd ein cyrsiau yn eich paratoi at waith yn y maes bywiog hwn a’ch galluogi chi i fodloni’r safonau uchaf y mae cyflogwyr yn eu disgwyl, gan roi profiad ymarferol i chi o’r diwydiant. Fel rhan o Academi Fforwm y Cogyddion, mae gan ein dysgwyr fynediad at arbenigedd ac ysbrydoliaeth cogyddion mwyaf profiadol y wlad, y cyfle i weithio mewn gwestai, bwytai a digwyddiadau cenedlaethol o fri, a phrofiad o weithio mewn ceginau bwytai prysur. Yn ogystal, rydym yn frwd dros fwyd a thwristiaeth yng Nghymru, ac yn gweithio gyda Chyngor Sir Fynwy, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac Our Food, i ddatblygu Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Rhanbarthol sy’n mynd i’r afael â materion pwysig yn y sector, o ail-ddatblygu’r economi fwyd leol, i ymdrin â materion iechyd yn ymwneud â bwyd a newid hinsawdd. Rydym yn arwain y ffordd gyda’r prosiectau arloesol hyn yn ein maes ac mae gennym fwy o ddatblygiadau cyffrous eraill ar y gweill hefyd.

Nawr yw’r amser i ystyried gyrfa mewn lletygarwch, arlwyo a thwristiaeth

Dod o hyd i ddigon o staff galluog yw un o’r heriau mwyaf i gyflogwyr mewn lletygarwch, arlwyo a thwristiaeth, sy’n golygu y bydd galw mawr amdanoch os bydd gennych y wybodaeth a’r sgiliau maent yn chwilio amdanynt. Fel un o’n sectorau swyddi sy’n tyfu gyflymaf, mae nifer enfawr o rolau gwahanol i’w hystyried ar gyfer gyrfa foddhaus. Mae’r cwbl yn ymwneud â gwasanaeth cwsmer a gweithio’n wyneb yn wyneb â phobl. Mae’n sector prysur a chyffrous, ac mae amrywiaeth enfawr o amgylcheddau gwahanol i weithio ynddynt, o Flaen Tŷ neu Reolwr Bwyty, i Drefnydd Digwyddiadau, Prif Gogydd, Asiant Teithio neu Dywysydd.

Felly, yn Coleg Gwent, rydym yn ailddiffinio ein cyrsiau, yn gwella ein cyfleusterau, ac yn datblygu cyfleoedd newydd, i’ch helpu chi i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu mewn gyrfa yn y sector bywiog hwn sy’n ehangu. O ymestyn ein cynnig o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch, i addasu ein ffordd o gyflwyno gwersi gyda thechnoleg rithiol a phrofiadau wedi’u hefelychu; rydym yn teilwra’ch profiad yn y coleg i’ch rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer llwyddiant ac i ddatblygu’ch sgiliau mewn ffyrdd newydd, arloesol. Rydym yn cynnig llawer mwy nag astudio yn yr ystafell ddosbarth – byddwch yn gadael y coleg wedi’ch paratoi ar gyfer cyflogaeth ac yn barod i roi hwb i’ch gyrfa!

Mae’n amser gwych i ymuno â Coleg Gwent i astudio lletygarwch, arlwyo a thwristiaeth gan fod cymaint o gynlluniau cyffrous iawn ar y gweill na allwn ddisgwyl eu cyhoeddi – cadwch lygad amdanynt! Felly, gwnewch gais nawr am gyrsiau sy’n dechrau’r mis Medi hwn ac ewch amdani yn Coleg Gwent!