Arlwyo a Lletygarwch

Mae’n un o’r diwydiannau mwyaf yn y wlad, sy’n cynnwys bwytai, gwestai, caffis, bariau a llawer mwy – felly gall un o’n cyrsiau arlwyo a lletygarwch agor y drws at lond gwlad o gyfleoedd.
Wrth eich bodd yn coginio? Ydych chi’n greadigol? Hoffi gweithio gyda phobl? Gallai arlwyo fod y dewis perffaith i chi o ran gyrfa, p’un ai a ydych eisiau gweithio mewn bwyty lleol, datblygu bwydlenni ar gyfer cadwyni bwytai cenedlaethol neu baratoi bwyd tra’n teithio’r byd ar long fordeithio foethus. Byddwch yn dysgu’r holl sgiliau a safonau uchel fydd eu hangen arnoch ar y cwrs.
O maître d’ i reolwr digwyddiadau, mae’r cyfleoedd yn ddiddiwedd yn y diwydiant cyffrous hwn – mae’n amgylchedd gweithio diddorol, cymdeithasol a boddhaus, a Coleg Gwent yw’r lle perffaith i ddechrau arni.
Cyrsiau arbenigol
Eisoes wedi cychwyn ar eich gyrfa neu’n gwybod beth yr hoffech arbenigo ynddo? Mae ein cyrsiau rhan-amser yn rhoi sylw i feysydd megis crefft siwgr, coginio proffesiynol ac addurno teisennau, yn ogystal â phynciau perthnasol i’r diwydiant, megis Iechyd a Diogelwch a Hylendid Bwyd.
Agored Cymru Astudiaethau Lletygarwch ac Arlwyo Lefel Mynediad
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
City & Guilds Diploma mewn Coginio Proffesiynol Uwch Lefel 3
Campws Crosskeys |
Rhan Amser Estynedig Dysgu rhan amser am 12 awr yr wythnos (weithiau mwy) gydag argaeledd grantiau.
|
Gweld y cwrs |
City & Guilds Coginio Proffesiynol Lefel 1
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
City & Guilds Coginio Proffesiynol Lefel 2
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
City & Guilds Tystysgrif NVQ mewn Gwasanaethau Lletygarwch Lefel 1
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
HND Twristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
Rwy’n mwynhau elfen ymarferol y cwrs, siarad gyda chwsmeriaid a’r broses sydd tu cefn i gynhyrchu’r bwyd. Yn ddiweddar, buom yn gweithio gyda #Chogyddion yng nghegin @CardiffMarriott.
Aled James
Professional Cookery Level 1
Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr