En
ILS Supported Internships at Nevill Hall Hospital

Interniaethau gyda Chefnogaeth ar gyfer Dysgwyr ILS


10 Medi 2021

Fis Medi yma, rydym yn lansio cynllun peilot newydd, cyffrous sy’n cynnig interniaethau a gefnogir gan Engage to Change Gwent i’n dysgwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) ar Gampws Crosskeys, ar y cyd â’n bwrdd iechyd lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB).

Ni yw’r coleg cyntaf yng Nghymru i dderbyn Gwobr Datblygiad Gyrfaoedd. Rydym yn teimlo’n gryf iawn dros roi cyfle i bob un o’n myfyrwyr ennill profiad o’r byd go iawn wrth astudio gyda ni. Mae’n helpu i’w paratoi nhw i gael dyfodol llwyddiannus ar ôl y coleg, a phrofiad gwaith yw un o’r ffyrdd rydym yn cefnogi ein dysgwyr i ddatblygu eu gyrfaoedd. Rydym hefyd yn darparu cymorth gydag ysgrifennu CV, datblygu sgiliau, cystadlaethau ac entrepreneuriaeth

Mae profiad gwaith yn gwneud mwy na rhoi blas i chi ar wahanol amgylcheddau gweithio. Mae hefyd yn eich paratoi chi ar gyfer y byd gwaith, drwy eich helpu chi i ddysgu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr fydd yn eich gwneud chi’n fwy cyflogadwy ar ôl gadael y coleg. Felly, o ran ymgeisio am swyddi, bydd cyflogwyr yn gallu gweld eich bod chi’n brofiadol ac yn barod i roi tân arni!

Lansio ein Cynllun Interniaeth gyda Chefnogaeth

Darperir y cynllun ar gyfer ein dysgwyr ILS. Mae cael y cyfle i fagu profiad ymarferol o amgylchedd gwaith yn allweddol, ac mae’n cefnogi eu cwricwlwm a nodau dysgu. Felly, mae ein cynllun interniaeth gyda chefnogaeth Engage to Change Gwent yn rhoi cyfle i ddysgwyr ILS gael golwg fanylach ar y mathau o swyddi gwahanol y gallant eu hystyried ym maes gofal iechyd, wrth ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd ar yr un pryd mewn gweithle cefnogol.

Mae Engage to Change yn brosiect ar y cyd rhwng Anabledd Dysgu CymruAgoriad CyfPrifysgol Caerdydd, ac ELITE. Caiff ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.

Ar 1 Medi 2021, cafodd ein dysgwr ILS gwrdd â’r Tîm Cyfleusterau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn Ysbyty Neuadd Nevill, y Fenni, i ddechrau eu rhaglen interniaeth ar gyfer y flwyddyn academaidd. Roedd y diwrnod yn gyfle iddynt edrych ar y rolau gwahanol y byddant yn eu gwneud yn ystod eu lleoliad gwaith yn yr ysbyty, ac roeddynt yn frwdfrydig iawn i ddechrau eu interniaethau.

ILS Supported Internships at Nevill Hall Hospital

Eglurodd Gino Parisi, Rheolwr Gofal sy’n Canolbwyntio ar y Person a Phartneriaethau yn ABUHB, fod y bwrdd iechyd bob amser yn ceisio cefnogi ei gymunedau lleol. Dywedodd: “Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi gallu datblygu’r bartneriaeth hon gyda Coleg Gwent ac Elite, a galluogi’r interniaid hyn i gael profiad gwaith gwerthfawr go iawn gyda’n tîm Cyfleusterau yn Ysbyty Neuadd Nevill, y Fenni. Rydym yn croesawu’r interniaid i’r bwrdd iechyd ac rydym yn edrych ymlaen at eu cefnogi nhw. Rydym yn diolch iddynt am ein cefnogi ni o fewn y gwasanaethau rydym yn eu darparu. Rwy’n grediniol y byddant yn dod yn aelodau tîm gwerthfawr.”

Cynigir yr interniaethau gyda chefnogaeth Engage to Change Gwent yn ystod y flwyddyn academaidd, sy’n rhoi amser i’n dysgwyr ILS ddatblygu eu sgiliau dros gyfnod hirach o amser, a pharatoi ar gyfer y byd gwaith. Bydd yr interniaid yn mynd ymlaen i brofi meysydd gwahanol o’r ysbyty yn ystod eu lleoliad gwaith. Byddant yn cael profiad cynhwysfawr o weithio mewn amgylchedd gofal iechyd ac yn cael cyfle i ddysgu amrywiaeth o sgiliau newydd. Efallai bod yr interniaeth hwn hefyd yn rhoi cyfle i ddysgwyr wneud cais am swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar ôl ei gwblhau. Ar ddiwedd yr interniaeth, bydd yr holl ddysgwyr sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun wedi dysgu ac wedi datblygu amrywiaeth wych o sgiliau i’w defnyddio yn y gweithle, a gallant eu trosglwyddo i swyddi a lleoliadau gwaith eraill yn y dyfodol.

Y cyfan sydd angen i ddysgwyr ILS ei wneud i gymryd rhan yn y cynllun interniaethau gyda chefnogaeth Engage to Change Gwent yw cysylltu â Phennaeth eu Hysgol i ddangos diddordeb. Ar gyfer pob dysgwr arall yn Coleg Gwent, mae ein tîm Menter a Chyflogadwyedd ar gael i’ch helpu chi ddod o hyd i gyfleoedd profiad gwaith addas a’ch helpu chi i symud ymlaen gyda’ch nodau gyrfaol unigol.

I gael mwy o fanylion a gwybodaeth am y prosiect, ewch i  wefan Engage to Change neu edrychwch ar ei sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol:

Twitter: @engage_2_change
Facebook: @engagetochangewales