Menter ac Entrepreneuriaeth

Ydych chi'n gweld eich hun fel y Richard Branson neu'r Arglwydd Sugar nesaf?
Mae llwyddiant busnesau bach a sefydliadau mawr yn dibynnu ar feddyliau arloesol a meddylwyr sionc. Felly fel rhan o’ch cwrs llawn amser, byddwn yn ceisio rhoi’r sgiliau a’r meddwl a fydd yn eich helpu i fod yn entrepreneur gwych!
Bydd hyn yn cynnwys:
- Dros 130 o arbenigwyr o’r diwydiant (siaradwyr gwadd) yn dod i sesiynau tiwtorial i godi ymwybyddiaeth ac ysbrydoli myfyrwyr i ddechrau eu busnes eu hunain
- Cystadlaethau entrepreneuriaeth – gan gynnwys Her Syniadau Mawr Cymru, Her y Farchnad Stoc, y Rhaglen Tafflab (i dderbyn cyllid a mentora)
- Yr Wythnos Fenter Fyd-eang yn arddangos y gorau mewn dosbarthiadau meistr menter ac entrepreneuriaeth
- Bod yn rhan o’r Prosiect Arloesi’r Cymoedd a chyfle i weithio gyda briffiau go iawn gydag ystod o fusnesau a sefydliadau
- Tair her gyfoethogi – Menter a Chyflogadwyedd, Cymuned a Dinasyddiaeth
- Cyfoethogi personol trwy CG Extra
Adolygiad Effaith Blynyddol Menter ac Entrepreneuriaeth
Nod Coleg Gwent yw ceisio:
- Hwyluso uchelgais entrepreneuraidd a chefnogi busnesau myfyrwyr ar bob cam o daith eu busnes newydd
- Annog cymuned y coleg i gynnig amgylchedd mentrus a chefnogol
- Ysbrydoli myfyrwyr gyda chyfleoedd i gwrdd ag entrepreneuriaid lleol a chlywed eu hanesion
- Datblygu a meithrin gallu dysgwyr, gan eu helpu i gydnabod a manteisio ar eu nodweddion entrepreneuraidd nad ydynt efallai yn sylweddoli eu bod eisoes yn meddu arnynt
- Ysgogi ein myfyrwyr i ddilyn eu nodau entrepreneuraidd eu hunain ac i ystyried hunangyflogaeth fel rhagolwg realistig.
Darganfyddwch fwy am ein heffaith yn ein Harolwg Effaith Blynyddol 2019.