Bywyd Myfyriwr

sudents

Undeb Myfyrwyr Coleg Gwent – CGSU

Mae bywyd yn y coleg yn troi o gwmpas Undeb y Myfyrwyr – ac yn Coleg Gwent, mae yna undeb sydd wedi ennill nifer o wobrau!

Pan fyddwch chi’n cofrestru yn y coleg, byddwch yn dod yn aelod o Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) yn awtomatig a gallwch gael mynediad i gyfleusterau a gwasanaethau Undeb y Myfyrwyr. Gallwch hefyd fanteisio ar ystod eang o ostyngiadau ar y stryd fawr ac ar-lein, trwy gerdyn TOTUM NUS Extra.

Mae Undeb Myfyrwyr Coleg Gwent yn cynrychioli eich barn yn y coleg a’r tu allan, yn ymgyrchu ar faterion sy’n effeithio ar fyfyrwyr, yn cynnig cefnogaeth gydag unrhyw broblemau sydd gennych ac yn cynnal digwyddiadau hyfforddi i helpu swyddogion Undeb y Myfyrwyr.

Fel aelod o’r Undeb Myfyrwyr gallwch gymryd rhan mewn pob math o ffyrdd, a chewch gyfle i:

  • Gynrychioli’r myfyrwyr yng nghynadleddau’r NUS
  • Cwrdd â phobl newydd
  • Gwneud newidiadau cadarnhaol yn y coleg ac yn genedlaethol
  • Ennill sgiliau a phrofiadau newydd
  • Gwella eich CV

Swyddog Cyntaf Undeb y Myfyrwyr

Vanessa Janes-Evans yw eich Swyddog Cyntaf llawn amser. Ei gwaith yw eich annog i gymryd rhan, eich helpu i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, cefnogi ac arwain yr Undeb Myfyrwyr ar bob campws, hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a helpu i sefydlu clybiau a chymdeithasau.

Os ydych yn chwilio am hwyl a chyffro tra byddwch yn astudio yn y coleg – mae CG Extra i chi! Mae’n cynnig slotiau pwrpasol wedi’u hamserlennu ar gyfer ystod eang o weithgareddau ochr yn ochr â’ch astudiaethau, ac yn rhoi cyfle i chi wneud ffrindiau newydd ar yr un pryd.

Mae ychydig yn unig o’r gweithgareddau y gallwch gymryd rhan ynddynt yn cynnwys:

  • Gwobr Dug Caeredin
  • Clybiau a Chymdeithasau
  • Codi arian a gwirfoddoli
  • Digwyddiadau a chystadlaethau
  • Digwyddiadau chwaraeon
  • Gweithgareddau menter i wella sgiliau cyflogadwyedd
  • Hybu Iechyd
  • Llysgenhadon Myfyrwyr
  • Digwyddiadau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i hyrwyddo cyfle cyfartal
  • Y Cynllun Cash4Change i ddatblygu sgiliau dinasyddiaeth

Rhowch wybod i ni yn y sesiynau cynefino os oes gennych unrhyw syniadau neu awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau newydd!

Fel myfyriwr, byddwch yn cael y cyfle i ddweud eich dweud ar asesu a llunio eich profiad yn y coleg. Rydym yn credu’n gryf mewn gwrando ar ein dysgwyr – ac rydym wedi ennill sawl gwobr am gadw at hynny!

<h3 class=”globalContent_sub_title fs_bold fs_14″>Mae lleisio eich barn yn ein cynorthwyo i newid yr hyn rydym yn gynnig i fyfyrwyr, ac rydym yn gwrando arnoch mewn sawl ffordd:<h3>

  • Cynrychiolwyr dosbarth
  • Undeb y Myfyrwyr
  • Llywodraethwyr Myfyrwyr a Phartneriaethau Cymunedol
  • Aelodaeth myfyrwyr ar fyrddau coleg, pwyllgorau a grwpiau
  • Cynhadledd Llais y Dysgwr
  • Cash4Change – ble mae myfyrwyr yn gwneud cynnig am arian i wneud newidiadau i’w campws.
  • Fforwm Addysg Gymunedol