En
Employer partnership pledge

Lansio ein Haddewid Partneriaeth Cyflogwyr ysbrydoledig


16 Medi 2021

Yr wythnos hon, gwnaethom lansio ein ‘Addewid Partneriaeth’ ysbrydoledig, sydd wedi’i anelu at gryfhau ein cysylltiadau diwydiant ac ymgysylltu â chyflogwyr lleol. Mae’r addewid wedi’i ddylunio i helpu i gwrdd â blaenoriaethau sgiliau rhanbarthol; cefnogi deilliannau myfyrwyr a’n heconomi leol; a’ch arfogi gyda’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn llwyddiannus yn eich gyrfa.

Mae Covid-19 wedi cael effaith anferthol ar ein dysgwyr a busnesau lleol yn yr ardal leol, ond wrth i ni symud trwy’r pandemig, bydd y coleg yn chwarae rôl ganolog yn y broses o adfer. Rydym yn cydnabod efallai y bydd Covid-19 yn newid y ffordd rydym yn gweithio yn ogystal â gofynion sgiliau nawr, ac yn y dyfodol, felly rydym wedi lansio ‘Addewid Partneriaeth Cyflogwyr’ i helpu i gefnogi dysgwyr unigol a busnesau’r rhanbarth ar yr un pryd.

Bydd yr Addewid Partneriaeth Cyflogwyr yn gosod cyflogwyr wrth galon ysbrydoli, cyfathrebu a darparu gwybodaeth ar eich cyfer yn gyson, arddangos llwybrau gyrfa a chyfleoedd datblygu i’ch cyffroi am y byd gwaith. Yn y cyfamser, bydd cyflogwyr yn cydweithio gyda ni i helpu i siapio darpariaeth y cwricwlwm ar gyfer gweithlu’r dyfodol hefyd, fel y gallwch fod yn barod am waith pan fyddwch yn gadael y coleg.

Bydd yr Addewid yn cefnogi cyflogwyr yn rhanbarth de Cymru a Gwent i weithio’n agosach gyda ni fel coleg Addysg Bellach, cefnogi busnesau i gydweithredu gydag addysg i’ch paratoi gyda phopeth sydd ei angen arnoch i lwyddo yn eich gyrfa yn y dyfodol. Eglurodd Guy Lacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Gwent; “y weledigaeth yw y bydd ein Haddewid Partneriaeth Cyflogwyr yn cryfhau’r wybodaeth a’r ymwybyddiaeth sydd eu hangen ar ein myfyrwyr i wybod pa gyfleoedd sydd ar gael iddynt, pa sgiliau sydd eu hangen arnynt a sut i ymgysylltu’n llwyddiannus gyda chyflogwyr. Bydd hefyd yn galluogi busnesau i adeiladu perthnasau agosach gyda’n coleg, cefnogi datblygiad cwricwlwm, ac yn helpu i gwrdd â gofynion sgiliau eu gweithlu yn y dyfodol. Mae hyn yn allweddol i lwyddiant ein hardal a dyfodol ein cenhedlaeth nesaf.

Employer partnership pledge

Mynychodd nifer o gyflogwyr o ledled rhanbarth Gwent y digwyddiad lansio ar ddydd Iau 16 Medi, a chofrestru i gefnogi cychwyn yr Addewid Partneriaeth Cyflogwyr. Roedd y rhain yn cynnwys cyflogwyr lleol adnabyddus fel Admiral, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Gwesty a Sba Bryn Meadows, Celtic Manor Resort, Continental Teves UK Ltd, Nexperia Casnewydd, Pro Steel Engineering Ltd, 104 Regiment, Royal Atillery, St Modwen Homes a Thales. Rydym hefyd yn awyddus i ymestyn ei gyrhaeddiad ymhellach, gan greu rhwydwaith o bartneriaethau addewid ar draws ystod o sectorau.

Admiral yw un o’r cwmnïau sydd wedi ymrwymo i’r Addewid, gan ddweud: “Mae gan Admiral berthynas gref gyda Coleg Gwent ac rydym yn mwynhau cydweithio, rhannu gwybodaeth ac arbenigedd. Mae’n wych gweld cymaint o fyfyrwyr yn datblygu ac yn gwella eu doniau a’u sgiliau i gynorthwyo eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i weithio gyda’n gilydd i ddatblygu ymgysylltiad myfyrwyr a chyflogwyr yn y tymor byr a’r tymor hir.”

Bydd yr Addewid Partneriaeth yn sefyll o fewn ein Tîm Ymgysylltiad Cyflogwyr, gan ddarparu mynediad at gefnogaeth a chyngor diduedd ar gyfer cyflogwyr sydd eisiau adeiladu perthnasau a sefydlu cysylltiadau gyda’r coleg. Yn y cyfamser, bydd cyflogwyr yn cydweithio gyda ni i helpu i siapio darpariaeth y cwricwlwm ar gyfer gweithlu’r dyfodol hefyd, fel y gallwch fod yn barod am waith pan fyddwch yn gadael y coleg. Mater allweddol ar gyfer y gymuned fusnes yw’r bwlch rhwng ymwybyddiaeth pobl ifanc o fyd gwaith ac anghenion yr economi leol. Fodd bynnag, bydd yr Addewid yn rhoi’r llwyfan i gyflogwyr arddangos y cyfleoedd a’r llwybrau gyrfa gwych sydd ar gael yn lleol i chi, gan agor byd o gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth ar ôl gadael y coleg.

Gall cyflogwyr, busnesau neu randdeiliaid sydd â diddordeb yn yr Addewid Partneriaeth Cyflogwyr gysylltu â Abigail Bassie, Cydlynydd Ymgysylltiad Cyflogwyr, trwy e-bostio abigail.bassie@coleggwent.ac.uk neu fynd i’r tudalennau Addewid Partneriaeth ar ein gwefan i ddysgu mwy.