En
Shining a light on our amazing apprentices

Canu clodydd ein prentisiaid penigamp


27 Mehefin 2022

Ddydd Iau 16 Mehefin cafodd gwobrau prentisiaeth blynyddol Coleg Gwent eu cynnal drachefn. Am y tro cyntaf ers tair blynedd, cafodd y digwyddiad ei gynnal yn y cnawd er mwyn dathlu ein prentisiaid penigamp.

Mae prentisiaethau wastad yn ddewis poblogaidd yn Coleg Gwent. Gyda phrentisiaeth, gallwch gael profiad go iawn yn y swydd, gallwch weithio tuag at gymhwyster cydnabyddedig a gallwch gael cyflog wrth astudio. Felly, mae yna lu o fanteision i chi ac i’ch cyflogwr.

Bydd ein hamrywiaeth o brentisiaethau yn Coleg Gwent yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn diwydiant o’ch dewis, boed y diwydiant hwnnw yn beirianneg, yn blymio, yn ofal iechyd neu’n arlwyo. Byddwch yn dysgu’r holl sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer eich crefft trwy gael profiad ymarferol, gyda chymorth gan diwtoriaid arbenigol yn y coleg.

Felly, bob blwyddyn rydym yn dathlu gwaith caled ein prentisiaid ac yn cydnabod eu llwyddiannau trwy gynnal ein gwobrau prentisiaeth blynyddol. Eleni, cafodd y dysgwyr, eu cyflogwyr, eu rhieni a staff Coleg Gwent fwynhau noswaith gyffrous yng Ngwesty Parkway, Cwmbrân, ac ar ôl cyflwyno’r gwobrau cafodd pawb fwynhau bwyd bys a bawd bendigedig.

Gan fod cannoedd o fyfyrwyr yn astudio prentisiaethau gyda Coleg Gwent ar hyn o bryd, cafwyd cystadlu brwd am y gwobrau. Enwebwyd prentisiaid anhygoel gan aseswyr a chyflogwyr fel ei gilydd, a braf iawn oedd clywed am y cyfraniadau gwych y mae ein prentisiaid yn eu gwneud eisoes i’w cwmnïau.

Cafodd dwy o’r gwobrau, a ganolbwyntiai ar sgiliau hanfodol, eu noddi gan Mark Harding, Pennaeth Sgiliau yn Coleg Gwent. Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod pwysigrwydd sgiliau Mathemateg a Saesneg yn y fframwaith prentisiaethau, ynghyd â’r myfyrwyr a lwyddodd yn eithriadol o dda yn y maes hwn.

Noddwyd yr wyth gwobr a oedd yn weddill gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, gyda chefnogaeth gan The Worshipful Company of Haberdashers. Mae’r ddau sefydliad yma wedi cefnogi’r gwobrau hyn ers amser maith, a gwych oedd cael cwmni’r Meistr Stuart Castledine a’r Lifreiwr Keith Shanklan, a gyflwynodd y gwobrau i’r enillwyr.

Shining a light on our amazing apprentices

Roedd ein henillwyr wrth eu bodd o gael tystysgrifau gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru a Coleg Gwent, yn ogystal â gwobr ariannol o £250.

Pleser oedd cael dwyn ynghyd y prentisiaid, y cyflogwyr, y rhieni a staff y coleg drachefn eleni i ddathlu llwyddiannau a chyflawniadau’r bobl ifanc hyn. Gobeithio bod yr enillwyr mor falch â ni ohonynt eu hunain a’u llwyddiannau!

Dyma restr lawn o’r enillwyr:

  • Cynnal a Chadw Peirianneg Fecanyddol – Prentis y Flwyddyn: Erin Sculley
  • Cynnal a Chadw Peirianneg Drydanol – Prentis y Flwyddyn: Jade Parry
  • Adeiladu – Prentis y Flwyddyn: Samuel Morrison
  • Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Adeiladu – Prentis y Flwyddyn: Michael Hayward
  • Y Diwydiant Moduro – Prentis y Flwyddyn: Jacque Deakin
  • Y Tîm Prentisiaethau – Gwobr am Berfformiad Eithriadol: Emma Parslow
  • Prentis Sylfaenol y Flwyddyn Sgiliau Hanfodol Cymru: Jack Goddard
  • Prentis y Flwyddyn Sgiliau Hanfodol Cymru: Daniel Gladwyn
  • Prentis Sylfaenol Cyffredinol y Flwyddyn: Jack Phillips
  • Prentis Cyffredinol y Flwyddyn: Matthew Catlin

Dewch i ddysgu rhagor am astudio prentisiaethau yn Coleg Gwent a llwyddo yn eich gyrfa!

Ydych chi’n ansicr ym mha grefft neu ddiwydiant yr hoffech arbenigo? Dewch draw i’n digwyddiad agored nesaf i siarad ag un o’n tiwtoriaid arbenigol ac i ddod o hyd i’r llwybr iawn i chi. Neu beth am gael sgwrs gyda’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar er mwyn dysgu rhagor am eich opsiynau.