Prentisiaethau
Nid yw addysg llawn amser yn addas i bawb – rydym yn cydnabod hynny. Felly beth am ystyried Prentisiaeth? Gallwch gyflawni cymwysterau gwerthfawr wrth ennill profiad hollbwysig – a derbyn cyflog wrth astudio!
Swydd go iawn
Defnyddiwch eich sgiliau newydd yn y gweithle, a dewch i’r coleg, un diwrnod yr wythnos fel rheol.
Cymhwyster go iawn
Mae Prentisiaeth yn gymhwyster cenedlaethol a gydnabyddir gan gyflogwyr ledled y byd. Sgiliau gwell, rhagolygon gwell!
Cyflog go iawn
Byddwch yn ennill profiad o’r diwydiant, sgiliau a chymwysterau wrth dderbyn cyflog!
Dyfodol disglair
Bydd Prentisiaeth yn rhoi i chi”r sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, a gall agor drysau yn y dyfodol.
Yn Coleg Gwent, gallwch wneud prentisiaeth mewn:
- Gosod Brics
- Gwaith Coed
- Peirianneg drydanol
- Gosod trydan
- Iechyd a gofal cymdeithasol
- Lletygarwch
- Peirianneg fecanyddol
- Plymio
- Atgyweirio corff cerbyd
- Cynnal a chadw cerbydau
- Weldio
Cymryd y cam nesaf
I wneud Prentisiaeth mae’n rhaid i chi fod:
- Mewn cyflogaeth yn y sector berthnasol, gyda chytundeb cyflogaeth ac yn cael eich talu yn ôl yr isafswm cyflog cenedlaethol
- Yn byw ac/neu yn gweithio yng Nghymru
- Ddim mewn addysg llawn amser
- Yn barod i gwblhau’r cymwysterau sydd yn tanategu’r Brentisiaeth
- Yn 16 mlwydd oed neu hŷn.
Ddim mewn gwaith eto?
Dim problem. Gallwch gofrestru ar gwrs llawn amser ac, wedi i chi ddod o hyd i gyflogwr, trosglwyddo i wneud Prentisiaeth – gweler ein cyngor ar ddod o hyd i swydd.
Methu dod o hyd i rywbeth?
Caiff prentisiaethau newydd eu hychwanegu’n gyson at ein gwefan, felly os na allwch ddod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano, cofiwch wirio eto yn fuan. Fel arall, beth am gysylltu â ni i drafod eich opsiynau drwy ffonio 01495 333355 neu anfon e-bost i apprenticeships@coleggwent.ac.uk.






Gwybodaeth i Gyflogwyr
Darganfyddwch fwy