Adeiladu
Creu gyrfa sy’n para
Os ydych yn berson ymarferol sy’n hoffi’r syniad o weld canlyniadau eich gwaith yn ddyddiol, gallai gyrfa yn y maes adeiladu fod yn berffaith i chi.
O osod brics a gwaith coed i blymio a gosodiadau trydanol, mae ein cyrsiau adeiladu yn rhoi i chi’r sgiliau sydd â galw mawr amdanynt a phrofiad o’r byd go iawn i ddechrau llywio eich dyfodol - un prosiect ar y tro.
Cewch hyfforddi mewn gweithdai proffesiynol, gyda chefnogaeth arbenigol
Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau pwysig ar gyfer y gweithle fel datrys problemau, cyfathrebu a chynllunio - felly byddwch yn barod ar gyfer yr hyn a deflir atoch yn y swydd.
Yn Coleg Gwent, byddwch yn dysgu mewn gweithdai arbenigol, llawn offer o safon y diwydiant, gan feithrin sgiliau y gellir eu defnyddio’n syth ar y safle adeiladu. Mae ein mannau hyfforddi modern yn cynnwys:
- Canolfannau adeiladu gyda gweithdai arbenigol ac offer ar gyfer pob crefft
- Ystafelloedd TG gyda meddalwedd dylunio CAD
- Canolfan brofi nwy ACS yng Nghasnewydd (canolfan a gymeradwywyd gan BPEC)
Dewiswch y grefft sy'n addas i chi
Gydag ystod eang o gyrsiau ar gael, gallwch gychwyn â’r pethau sylfaenol, magu hyder, a gweithio’ch ffordd i fyny i gymwysterau uwch ac arbenigol.
I ble y gallwch chi fynd ym maes adeiladu?
Mae maes adeiladu wrth galon y byd sy’n cael ei ffurfio o’n hamgylch ni – o gartrefi ac ysgolion i ffyrdd a nendyrau. Os ydych chi’n mwynhau gweithio gyda’ch dwylo neu reoli prosiectau mawr, mae rôl ar gael sy’n cyd-fynd â’ch cryfderau a’ch uchelgeisiau.
Mae cymhwyster ym maes adeiladu yn agor drysau i ystod o yrfaoedd cyffrous, gan gynnwys:
- Briciwr
- Saer
- Plymwr
- Trydanwr
- Plastrwr
- Rheolwr safle
- Syrfëwr Meintiau
- Peintiwr ac addurnwr
- Gweithredwr Peirianwaith
- Rheolwr Prosiectau Adeiladu
Oriel
Mae eich dyfodol mewn adeiladu yn dechrau yma
P’un a ydych yn awyddus i weithio yn y diwydiannau crefft, cychwyn prentisiaeth, neu ddatblygu sgiliau newydd i fynd ymlaen yn eich gyrfa, bydd ein cyrsiau yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn adeiladu gyda photensial hir dymor a buddion go iawn.
Edrychwch ar ein cyrsiau adeiladu llawn amser, rhan amser a lefel prifysgol heddiw.