Celf, Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth
Dewch â'ch syniadau'n fyw
Ydych chi’n greadigol a bod syniadau mawr gennych? P’un a ydych yn hoffi braslunio, ffilmio, dylunio, chwarae gemau, neu dynnu lluniau, mae ein cyrsiau creadigol wedi eu llunio i bobl fel chi.
Yn Coleg Gwent, cewch droi eich angerdd yn sgiliau ymarferol - a’ch creadigrwydd yn yrfa y byddwch yn falch ohoni.
Cewch greu mewn lleoedd sy’n eich ysbrydoli
Bydd tiwtoriaid profiadol yn y diwydiant yn eich dysgu mewn mannau proffesiynol sy’n dod â'ch syniadau'n fyw. Mae ein cyfleusterau gyda'r gorau yn Ne Ddwyrain Cymru, gan gynnwys:
P’un a ydych yn cychwyn arni neu’n adeiladau ar yr hyn yr ydych eisoes yn ei wybod, cewch hyd i bopeth sydd ei angen arnoch i ddysgu, tyfu, a chreu yma.
- Stiwdio ffotograffiaeth llawn offer
- Stiwdio recordio radio broffesiynol
- Ystafell olygu a stiwdio’r cyfryngau arbenigol
- Ystafell ddylunio gemau o ansawdd uchel
- Stiwdios dylunio modern, golau
Cewch archwilio ystod eang o gyfryngau a thechnegau wrth i chi ddatblygu eich arddull eich hun. P’un a yw eich angerdd mewn darlunio, dylunio graffeg, celfyddyd gain, neu ffasiwn, mae cwrs celf a dylunio yma i’ch helpu i gymryd y cam nesaf.
Cewch brofiad ymarferol drwy greu cynnwys ar draws teledu, radio, ffilm a digidol. Byddwch yn dysgu sut i gynllunio, cynhyrchu, a golygu cynnwys sy’n denu sylw, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y cyfryngau, mewn hysbysebu, neu ddarlledu.
Dysgwch sut i ddweud straeon pwerus drwy’r lens. P’un a yw’n ffotograffiaeth fasnachol, ffasiwn, ddogfennol neu gelfyddyd gain, gall ein cyrsiau ffotograffiaeth eich helpu i feistroli’r technegau i dynnu’r llun perffaith.
Camwch i fyd dylunio, animeiddio ac adrodd stori gyda’n cyrsiau dylunio gemau. Cewch ddysgu sut i ddod â chymeriadau, amgylcheddau, a syniadau yn fyw gan ddefnyddio offer a meddalwedd o safon y diwydiant.
Byddwch yn greadigol tu ôl i’r llenni gyda sgiliau arbenigol mewn prosthetigau, SFX, a steilio creadigol. Mae’n berffaith os ydych yn cael eich denu at y theatr, ffilm, ffasiwn neu’r teledu.
I ble y gallwch fynd gyda’ch creadigrwydd?
Byddwch yn cynhyrchu portffolio o waith, cael profiad o’r byd go iawn, ac yn barod am y cam nesaf - p’un a yw hynny’n fwy o astudio neu gamu’n syth i’r diwydiant.
Mae ein cyrsiau creadigol yn arwain at yrfaoedd cyffrous mewn:
- Dylunio digidol a graffeg
- Ffotograffiaeth a golygu lluniau
- Datblygu gemau
- Darlunio ac animeiddio
- Ffilm, teledu, radio a chreu cynnwys
- Colur y cyfryngau a ffasiwn
Astudio yn agos at adref
Does dim rhaid ichi fynd ymhell i wireddu eich breuddwyd. Yn Coleg Gwent, gallwch astudio cyrsiau creadigol o lefel sylfaen hyd at lefel brifysgol.
Cewch greu eich dyfodol ym myd bywiog celf, dylunio, y cyfryngau a ffotograffiaeth
Llywiwch eich dyfodol creadigol a datgloi cyfleoedd cyffrous mewn celf, dylunio, y cyfryngau a ffotograffiaeth.
Porwch drwy ein hystod amrywiol o gyrsiau llawn amser, rhan amser, a lefel prifysgol, a defnyddiwch eich sgiliau mewn gyrfa y byddwch wirioneddol yn ei mwynhau.