Busnes a Chyfrifeg
Gosodwch sylfeini am lwyddiant i’ch hun
Oes gennych gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol? P’un a ydych am redeg eich cwmni’ch hun, arwain mewn sefydliad byd-eang, neu fod yn gyfrifydd cymwysedig, bydd ein cyrsiau busnes a chyfrifyddu yn eich helpu i feithrin y sgiliau, y wybodaeth, a’r hyder i wireddu hynny.
Dysgwch gan arbenigwyr mewn lleoliad proffesiynol
Yn Coleg Gwent, cewch eich addysgu gan diwtoriaid profiadol sy’n adnabod y diwydiant tu chwith allan. Rydym yn ganolfan achrededig ar gyfer cymwysterau AAT, CIPD ac ILM, felly p’un a oes gennych ddiddordeb mewn cyrsiau cyfrifyddu a chyllid neu astudiaethau rheoli busnes, byddwch yn dysgu gyda’r goreuon.
Yma, byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol gan ddefnyddio offer a sefyllfaoedd go iawn - felly rydych yn barod, nid yn unig am y cam nesaf, ond am y gweithle.
Mae ein cyrsiau busnes a rheoli yn gosod dealltwriaeth gadarn o sut mae busnesau yn gweithio, gan ymdrin â phopeth o farchnata ac adnoddau dynol i entrepreneuriaeth ac arweinyddiaeth. Cewch archwilio cyfleoedd a heriau’r byd go iawn, gan ennill profiad all fynd â chi i unrhyw sector, rywle yn y byd.
Os ydych yn hoff o rifau, gall ein cymwysterau cyfrifyddu fynd â chi i leoedd anhygoel. Fel darparwr cyrsiau Cyfrifyddu AAT achrededig, byddwn yn eich helpu i ddatblygu’r wybodaeth a’r hyder i weithio mewn cadw cyfrifon, trethiant, adrodd ariannol, a mwy. P’un a ydych yn awyddus i weithio mewn adran gyllid, cwmni cyfrifyddu, neu sefydlu eich busnes eich hun, bydd ein cyrsiau o gymorth i chi gael cymhwyster AAT a bod yn barod am yrfa.
I ble y gallwch fynd gyda’ch cwrs?
Hefyd, byddwch yn ennill y cymwysterau cydnabyddedig y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt - a byddwch ar y droed flaen mewn hyfforddiant proffesiynol pellach neu astudio ar lefel prifysgol.
Gall ein cymwysterau busnes a chyfrifyddu arwain at yrfaoedd mewn:
- Rheoli busnes ac arwain
- Gwasanaethau ariannol a chyfrifyddu
- Marchnata a rheoli prosiect
- Cadw cyfrifon a chyflogres
- Adnoddau dynol
- Entrepreneuriaeth a hunan-gyflogaeth
Oriel
Llunio’ch dyfodol ym myd deinamig busnes a chyllid
Yn Coleg Gwent, byddwch yn derbyn y gefnogaeth, yr arweiniad, a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnoch i lwyddo mewn busnes, rheoli neu gyllid.
Gall ein hystod eang o gyrsiau llawn amser, rhan amser ac addysg uwch yn Coleg Gwent eich helpu i gyflawni eich nodau gyrfaol.
Cewch ddarganfod ein cyrsiau isod a datgloi eich potensial ym myd busnes.