Yn gryno
Mae Diploma Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg yn cynnig hyfforddiant technegol mewn cyfrifeg ac mae’n ddelfrydol i unrhyw un sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn cyfrifeg cyllid.
Mae Diploma Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg yn cynnig hyfforddiant technegol mewn cyfrifeg ac mae’n ddelfrydol i unrhyw un sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn cyfrifeg cyllid.
Bydd yr uned hon yn darparu dealltwriaeth o’r busnes, ei amgylchedd a'r dylanwad y mae hyn yn ei gael ar strwythur sefydliad, a rôl a pherfformiad ei swyddogaeth gyfrifyddu. Byddwch yn archwilio’r dibenion a’r mathau o fusnesau sy’n bodoli, a hawliau a chyfrifoldebau rhanddeiliaid allweddol. Byddwch yn dysgu beth yw'r amgylcheddau micro- a macro-economaidd a'r effaith a dylanwad y gall newidiadau yn yr amgylcheddau hyn eu cael ar berfformiad a phenderfyniadau. Bydd hyn yn cynnwys dealltwriaeth o’r gyfraith fusnes sylfaenol sy’n ymwneud â pharatoi datganiadau ariannol ar gyfer gwahanol fathau o endidau. Byddwch yn dysgu cysyniadau risg, mathau o risg a rheoli risg ar gyfer busnes.
Byddwch yn dod i ddeall y pwysigrwydd o foeseg broffesiynol a rheolaeth foesegol, a sut mae'r swyddogaeth gyllid yn rhyngweithio â swyddogaethau busnes allweddol eraill i wella effeithlonrwydd gweithredol. Byddwch yn dysgu egwyddorion i ddadansoddi a barnu sefyllfaoedd moesegol a allai godi yn y gweithle. Byddwch hefyd yn deall sut mae gweithredu’n foesegol yn deillio o werthoedd personol a sefydliadol craidd, yn ogystal â’r fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol ar gyfer gwrth-wyngalchu arian.
Mae rôl y cyfrifydd yn newid. Ysgogir y newid hwn yn arbennig gan dechnolegau sy’n dod i’r amlwg, felly byddwch yn dysgu am y mathau o newidiadau technolegol sy’n effeithio ar y proffesiwn cyfrifyddu ac yr effaith y mae’r rhain yn ei gael ar berfformiad, dadansoddi data a phrosesau cyfrifyddu. Sgil bwysig i gyfrifwyr yw’r gallu i ddadansoddi, deall a dehongli gwybodaeth a gesglir ac a gyfathrebir mewn fformatau gwahanol. Byddwch yn dod i ddeall y defnydd a’r effaith o ddata mawr, a nodweddion allweddol ‘blockchain’, deallusrwydd artiffisial (AI) a chyfrifyddu cwmwl. Byddwch yn ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddelweddu a dehongli data i gefnogi dealltwriaeth a gwneud penderfyniadau ar gyfer busnesau.
… Ydych wedi cwblhau Tystysgrif Sylfaen Lefel 2 AAT mewn Cyfrifeg
… Ydych am ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth ym maes cyfrifeg
… Ydych am weithio mewn lleoliad cyfrifeg
Byddwch yn gwella ar y sgiliau a wnaethoch eu datblygu o Dystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg ac yn ennill amrywiaeth o sgiliau cyfrifyddu hanfodol a chymhleth, gan gynnwys cynnal cofnodion cyfrifyddu costau a pharatoi adroddiadau a ffurflenni.
Mae'r Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg yn cynnwys pedair uned orfodol:
- Ymwybyddiaeth Busnes – Byddwch yn dysgu am wahanol fathau o fusnesau, strwythurau, dulliau llywodraethu, a’r fframwaith cyfreithiol y maent yn gweithredu ynddo ac effaith yr amgylchedd micro a macro-economaidd
- Cyfrifeg Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol* - Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso’r egwyddorion o gadw cyfrifon cofnod dwbl uwch, caffael a gwaredu asedau anghyfredol. Byddwch yn paratoi cyfrifiadau dibrisiant, addasiadau diwedd cyfnod ac yn cynhyrchu balans prawf estynedig.
- Prosesau Treth ar gyfer Busnes* - Byddwch yn archwilio ac yn cymhwyso gofynion y ddeddfwriaeth ar TAW, yn cyfrifo TAW, yn adolygu a dilysu’r broses o wneud ffurflenni treth yn ddigidol (MTD), yn dod i ddeall egwyddorion y gyflogres, ac yn astudio’r goblygiadau o wneud gwallau, ffeilio a thalu’n hwyr, a sut i adrodd am wybodaeth sy’n ymwneud â TAW.
- Prosesau Treth ar gyfer Busnes* - Byddwch yn archwilio ac yn cymhwyso gofynion y ddeddfwriaeth ar TAW, yn cyfrifo TAW, yn adolygu a dilysu’r broses o wneud ffurflenni treth yn ddigidol (MTD), yn dod i ddeall egwyddorion y gyflogres, ac yn astudio’r goblygiadau o wneud gwallau, ffeilio a thalu’n hwyr, a sut i adrodd am wybodaeth sy’n ymwneud â TAW
Trwy ymgeisio am hyn, byddwch yn prynu modiwl Ymwybyddiaeth Busnes.
Er mwyn ennill y cymhwyster Lefel 3 mewn Cyfrifeg, bydd angen i chi gwblhau pob un o'r pedwar modiwl uchod, gallwch brynu pob modiwl ar wahân.
*Er mwyn ennill y cymhwyster Lefel 3 mewn Cadw Cyfrifon, bydd angen i chi gwblhau’r ddau fodiwl gyda *, gallwch brynu pob modiwl ar wahân.
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg
neu
- Cyfweliad gyda'r tiwtor os nad oes gennych yr uchod
Mae hwn yn gwrs ‘rholio-ymlaen / rholio i ffwrdd’ gyda dyddiadau cychwyn hyblyg. Rydym yn recriwtio myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn.
Mae hwn hefyd yn gwrs dysgu cyfunol (cymysgedd o wyneb yn wyneb traddodiadol gydag athro mewn ystafell ddosbarth a gweithgareddau dysgu gan ddefnyddio technolegau digidol o gartref).
Ar ôl cwblhau Lefel 3 mewn Cyfrifeg yn llwyddiannus gallwch fynd ymlaen at Ddiploma Lefel 4 AAT mewn Cyfrifeg y gallwch ei wneud yn llawn amser neu'n rhan-amser yn Coleg Gwent.
Ar lwyddo i gwblhau’r cwrs Cadw Llyfrau Lefel 3, gallwch chi symud i’r cwrs AAT Lefel 3 mewn Cyfrifyddu drwy gwblhau’r ddwy uned ychwanegol – Ymwybyddiaeth Busnes a Thechnegau Cyfrifeg Rheolaeth.
Bydd y cwrs nos yn cael ei amserlennu fel y ganlyn:
Bydd y cwrs nos Fawrth wyneb I wyneb ar y campws ar dydd Mawrth 5yp tan 9yp. Bydd gofyn i chi gwblhau gweddill y cwrs bob wythnos ar-lein yn eich amser hun ar blatfform ar-lein Kaplan fel y cyfarwyddir gan eich tiwtor.
Bydd deunyddiau y cwrs prynhawn yn costi £50 y modiwl, cyfanswm o £200 ar gyfer y cymhwyster llawn.
Bydd y cwrs dydd yn cael ei amserlennu fel y ganlyn:
Bydd y cwrs dydd Llun yn wyneb wyneb ar y campws ar ddydd Llun 9yb tan 16.45
Bydd deunyddiau cwrs hefyd rhwng £150 a £200 yn dibynnu ar y deunyddiau a ddewiswch
Costau eraill:
Llyfrau tua £30 y modiwl
Cofrestriad AAT (yn daladwy i’r AAT) £240