Yn gryno
A oes gennych ddiddordeb mewn datblygu gyrfa newydd neu ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn hunangyflogedig? Os felly, gallai’r cwrs cyfrifeg hwn fod y lansiad perffaith ar gyfer cyfeiriad cyffrous newydd gydag AAT.
Mae’r cwrs byr hwn yn ymdrin â’r wybodaeth gychwynnol sylfaenol i symud ymlaen i astudiaeth ar sylfaen ehangach a byddai’n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n ansicr neu’n nerfus ynghylch ymgymryd â’r Dystysgrif Sylfaen ar yr adeg hon.
Mae’r mwyafrif o ddysgwyr yn symud ymlaen i’r Dystysgrif Sylfaen mewn AAT, a all hefyd gael ei hastudio yn Coleg Gwent.
...Rydych eisiau datblygu gyrfa, neu ddod yn hunangyflogedig mewn cyllid neu gyfrifeg
...Rydych eisiau datblygu eich gwybodaeth
...Rydych eisiau newid gyrfa, neu ddychwelyd at astudiaeth neu gyflogaeth, wedi amser sylweddol i ffwrdd
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn dysgu am y canlynol, o ran sgiliau a rôl y cyfrifydd;
- Deall rôl y cyfrifydd
- Deall trafodion ariannol
- Prosesu trafodion cyflenwyr a chwsmeriaid
- Prosesu derbynebau a thaliadau
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, fodd bynnag, dylai'r dysgwyr allu ysgrifennu a siarad Saesneg yn dda, a gallu darllen a dehongli gwybodaeth ariannol sylfaenol. Mae'r dyhead i astudio ymhellach a datblygu gyrfa mewn cyllid neu gyfrifeg yn hanfodol.
Yn ychwanegol at y ffioedd cwrs ac arholiadau, bydd costau ychwanegol yn uniongyrchol daladwy i Gymdeithas y Technegwyr Cyfrifeg (AAT) gan y bydd disgwyl i chi ymuno a thalu am aelodaeth o’r corff proffesiynol AAT. Mae’r holl gostau’n cael eu hadolygu a gallent newid.