Yn gryno
Mae'r cymhwyster hwn yn ddelfrydol at ddatblygu eich sgiliau a'ch profiad, gwella'ch perfformiad a pharatoi ar gyfer cyfrifoldebau rheoli uwch. Fe'i cyflwynir gan diwtoriaid profiadol sydd eu hunain wedi dal swyddi rheoli, ac mae hyfforddiant yn ymarferol, yn gyfranogol ac yn gysylltiedig â'r gweithle.
Cynlluniwyd y cymhwyster hwn ar gyfer penaethiaid adran a rheolwyr canol gweithredol eraill.
Mae'r unedau yn y cymhwyster hwn yn cwmpasu amrywiaeth eang o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth. Gallant gael eu dewis gan gyflogwr i ddiwallu eu hanghenion hyfforddi. Fel arall, argymhellwn ddwy uned a fydd yn caniatáu i ddysgwyr gael y Wobr llawn:
- Datblygu ac arwain timau i gyflawni amcanion sefydliadol: i ddatblygu dealltwriaeth a gallu o ran datblygu ac arwain timau
- Dod yn arweinydd effeithiol: i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o arweinyddiaeth effeithiol.
Bydd dysgwyr yn mynychu gweithdai dan arweiniad hyfforddwyr ar gyfer pob uned a byddant yn cyflwyno aseiniad ysgrifenedig 2500 o hyd ar gyfer pob uned.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
This qualification is delivered on an employer’s site for a group of their employees, not on campus for individuals to attend. Delivery dates are agreed in advance with the employer
The two units recommended above are delivered over five days. A formal quote can be issued once we understand your training need but as a guide, we charge £4,500 (includes all training, feedback and marking) plus additional awarding body fees (circa £125 per learner).