Yn gryno
Mae Diploma Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg yn cynnig hyfforddiant technegol mewn cyfrifeg ac mae’n ddelfrydol i unrhyw un sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn cyfrifeg cyllid.
Rydych chi’n prynu uned Technegau Cyfrifeg Rheolaeth o gwrs AAT Lefel 3 Diploma mewn Cyfrifyddu.
Mae’r cwrs Technegau Cyfrifeg Rheolaeth yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol er mwyn deall rôl cyfrifeg rheolaeth mewn sefydliad a sut mae sefydliadau yn defnyddio gwybodaeth o’r fath i gynorthwyo â’r broses gwneud penderfyniadau.
Byddwch chi’n dysgu’r egwyddorion sy’n sail i fethodoleg a thechnegau cyfrifeg rheolaeth, sut mae sefydliadau’n trin costau a pham bod sefydliadau’n trin costau mewn ffyrdd gwahanol. Bydd modd i chi nodi dulliau gwahanol ar gyfer cyfrifeg rheolaeth a darparu beirniadaeth wybodus a rhesymegol i lywio rheolwyr. Byddwch chi hefyd yn dysgu sut i gymhwyso’r egwyddorion hyn a gwerthfawrogi pam bod cyfrifeg rheolaeth effeithiol yn hanfodol mewn sefydliadau.
Byddwch chi’n dysgu’r technegau angenrheidiol ar gyfer ymdrin â chostau uniongyrchol a refeniw a thrin costau gorbenion tymor byr. Byddwch chi hefyd yn dysgu’r technegau angenrheidiol ar gyfer gwneud penderfyniadau, defnyddio amcanbrisoedd, refeniw a llif arian. Byddwch chi’n dysgu sut i gyflawni gweithdrefnau yn unol â swyddogaeth ariannol mewn sefydliad yn y byd go iawn, gan gynnwys: dosrannu gorbenion cyllidebol a chynhyrchu cyfraddau adfer, cynnal dadansoddiadau amrywiant a chost-cyfaint-elw (CVP) sylfaenol, cyfrifo mesurau cyfalaf gwaith, cynhyrchu cyllidebau syml, monitro llif arian ac adrodd gwybodaeth gyfrifyddu.
Bydd gofyn i chi ddefnyddio taenlenni wrth gyfrifo, trin a dadansoddi data, adrodd a llunio rhagolygon. Bydd sgiliau megis defnyddio fformiwlau, adnoddau dadansoddi swyddogaethau data, didoli a hidlo, yn hanfodol ym maes cyfrifyddu er mwyn eich galluogi chi i gynnal cyfrifiadau cymhleth yn gyflym ac yn gywir. Ar ôl ei ddadansoddi, mae angen i’r data gael ei wirio’n gynhwysfawr a'i gyflwyno gan ddefnyddio ystod o ddulliau, er enghraifft, taenlen strwythuredig gan gynnwys tablau colynnu a siartiau.
Mae hwn yn gwrs ‘rholio-ymlaen / rholio i ffwrdd’ gyda dyddiadau cychwyn hyblyg. Rydym yn recriwtio myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn.
Mae hwn hefyd yn gwrs dysgu cyfunol (cymysgedd o wyneb yn wyneb traddodiadol gydag athro mewn ystafell ddosbarth a gweithgareddau dysgu gan ddefnyddio technolegau digidol o gartref).
Mae’r cwrs hwn yn dilyn cwrs Tystysgrif Sylfaen AAT Lefel 2 a bydd yn eich galluogi chi i ennill sgiliau pellach ym maes cyfrifyddu.
… Ydych wedi cwblhau Tystysgrif Sylfaen Lefel 2 AAT mewn Cyfrifeg
… Ydych am ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth ym maes cyfrifeg
… Ydych am weithio mewn lleoliad cyfrifeg
Byddwch yn gwella ar y sgiliau a wnaethoch eu datblygu o Dystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg ac yn ennill amrywiaeth o sgiliau cyfrifyddu hanfodol a chymhleth, gan gynnwys cynnal cofnodion cyfrifyddu costau a pharatoi adroddiadau a ffurflenni.
Mae'r Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg yn cynnwys pedair uned orfodol:
- Ymwybyddiaeth Busnes – Byddwch yn dysgu am wahanol fathau o fusnesau, strwythurau, dulliau llywodraethu, a’r fframwaith cyfreithiol y maent yn gweithredu ynddo ac effaith yr amgylchedd micro a macro-economaidd
- Cyfrifeg Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol* - Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso’r egwyddorion o gadw cyfrifon cofnod dwbl uwch, caffael a gwaredu asedau anghyfredol. Byddwch yn paratoi cyfrifiadau dibrisiant, addasiadau diwedd cyfnod ac yn cynhyrchu balans prawf estynedig.
- Prosesau Treth ar gyfer Busnes* - Byddwch yn archwilio ac yn cymhwyso gofynion y ddeddfwriaeth ar TAW, yn cyfrifo TAW, yn adolygu a dilysu’r broses o wneud ffurflenni treth yn ddigidol (MTD), yn dod i ddeall egwyddorion y gyflogres, ac yn astudio’r goblygiadau o wneud gwallau, ffeilio a thalu’n hwyr, a sut i adrodd am wybodaeth sy’n ymwneud â TAW.
- Prosesau Treth ar gyfer Busnes* - Byddwch yn archwilio ac yn cymhwyso gofynion y ddeddfwriaeth ar TAW, yn cyfrifo TAW, yn adolygu a dilysu’r broses o wneud ffurflenni treth yn ddigidol (MTD), yn dod i ddeall egwyddorion y gyflogres, ac yn astudio’r goblygiadau o wneud gwallau, ffeilio a thalu’n hwyr, a sut i adrodd am wybodaeth sy’n ymwneud â TAW
Trwy gyflwyno cais yma, rydych chi’n prynu uned Technegau Cyfrifeg Rheolaeth
Er mwyn ennill y cymhwyster Lefel 3 mewn Cyfrifeg, bydd angen i chi gwblhau pob un o'r pedwar modiwl uchod, gallwch brynu pob modiwl ar wahân.
*Er mwyn ennill y cymhwyster Lefel 3 mewn Cadw Cyfrifon, bydd angen i chi gwblhau’r ddau fodiwl gyda *, gallwch brynu pob modiwl ar wahân.
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg
neu
- Cyfweliad gyda'r tiwtor os nad oes gennych yr uchod
Bydd y cwrs nos yn cael ei amserlennu fel y ganlyn:
Bydd y cwrs nos Fawrth wyneb I wyneb ar y campws ar dydd Mawrth 5yp tan 9yp. Bydd gofyn i chi gwblhau gweddill y cwrs bob wythnos ar-lein yn eich amser hun ar blatfform ar-lein Kaplan fel y cyfarwyddir gan eich tiwtor.
Bydd deunyddiau y cwrs prynhawn yn costi £50 y modiwl, cyfanswm o £200 ar gyfer y cymhwyster llawn.
Bydd y cwrs dydd yn cael ei amserlennu fel y ganlyn:
Bydd y cwrs dydd Llun yn wyneb wyneb ar y campws ar ddydd Llun 9yb tan 16.45
Bydd deunyddiau cwrs hefyd rhwng £150 a £200 yn dibynnu ar y deunyddiau a ddewiswch
Ar ôl cwblhau Lefel 3 mewn Cyfrifeg yn llwyddiannus gallwch fynd ymlaen at Ddiploma Lefel 4 AAT mewn Cyfrifeg y gallwch ei wneud yn llawn amser neu'n rhan-amser yn Coleg Gwent. Ar ôl ei gwblhau gallwch ymgymryd â rôl mewn cyllid.
Ar lwyddo i gwblhau’r cwrs Cadw Llyfrau Lefel 3, gallwch chi symud i’r cwrs AAT Lefel 3 mewn Cyfrifyddu drwy gwblhau’r ddwy uned ychwanegol – Ymwybyddiaeth Busnes a Thechnegau Cyfrifeg Rheolaeth.
Costau eraill:
Llyfrau tua £30 y modiwl
Cofrestriad AAT (yn daladwy i’r AAT) £240