Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Dechrau ar eich gyrfa o ofalu
Os ydych yn berson sy’n awyddus i helpu eraill, helpu’r gymuned, a gwneud gwahaniaeth, byddwch yn teimlo’n gartrefol yn y sector gofal.
P’un a oes gennych ddiddordeb mewn gofal iechyd, gwaith cymdeithasol, hyfforddiant blynyddoedd cynnar, neu gyrsiau sgiliau cwnsela, bydd ein rhaglenni yn Coleg Gwent yn darparu’r wybodaeth, hyder a chymwysterau ar eich cyfer i gyrraedd ble bynnag y dymunwch.
Hyfforddwch ar gyfer swydd o bwys
Yn Coleg Gwent, byddwch yn dysgu gan diwtoriaid profiadol mewn amgylchedd cyfeillgar, cefnogol. P’un a ydych megis dechrau neu’n awyddus i uwchsgilio, rydym yn cynnig opsiynau dysgu’n hyblyg a chymwysterau sector gofal cydnabyddedig sy’n arwain at yrfaoedd ystyrlon.
Byddwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol, magu hyder, a bod yn barod i gamu i swydd lle mae’r hyn yr ydych yn ei wneud yn wirioneddol gyfrif.
O nyrsys a chynorthwywyr gofal i weithwyr cymorth a therapyddion, mae cannoedd o swyddi o fewn y sector gofal - pob un â’i buddion ei hun. Gallech fod yn gweithio mewn:
- Ysbytai, meddygfeydd neu glinigau deintyddol
- Cartrefi nyrsio neu ofal preswyl
- Gwasanaethau iechyd meddwl neu ofal cymunedol
- Therapïau arbenigol fel ffisiotherapi neu seicotherapi
Yn mwynhau gweithio gyda phlant? Mae gyrfa mewn addysg y blynyddoedd cynnar yn llawn hwyl ac yn bwysig. Mae ein cyrsiau hyfforddiant gofal plant yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o swyddi, gan gynnwys:
- Nyrs feithrinfa
- Cynorthwyydd dosbarth
- Nani breifat
- Goruchwyliwr crèche
Os ydych yn wrandäwr da ac yn awyddus i gefnogi eraill, gall ein cyrsiau sgiliau cwnsela eich helpu i ddatblygu technegau proffesiynol mewn cyfathrebu, empathi a chymorth emosiynol. Rydym yn cynnig cyrsiau achrededig AIM a all arwain at astudiaeth bellach neu rolau cymorth mewn ysgolion, elusennau, gwasanaethau iechyd a mwy.
Mae’r galw am lesiant holistig yn cynyddu. Dysgwch dechnegau ymarferol fel aromatherapi, tylino ac adweitheg ar gyrsiau sy’n canolbwyntio ar gefnogi iechyd corfforol ac emosiynol pobl. Mae’r cyrsiau ymarferol hyn, sy’n canolbwyntio ar bobl, yn agor drysau i yrfa werth chweil mewn llesiant a gofal personol.
I ble y gall gyrfa ym maes gofal fynd â chi?
Mae meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant oll yn ymwneud â gwneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau pobl. Os ydych chi’n dymuno cefnogi lles, gweithio gyda phlant neu ofalu am unigolion sy’n agored i niwed, mae llwybr gyrfa buddiol yn aros amdanoch chi.
Mae cymhwyster ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant yn agor drysau i ystod o yrfaoedd gwobrwyol, gan gynnwys:
- Nyrs
- Gweithiwr cymdeithasol
- Bydwraig
- Gweithiwr gofal
- Cynorthwy-ydd meithrin
- Gweithiwr ieuenctid
- Cynorthwy-ydd gofal iechyd
- Cwnselydd
- Cynorthwy-ydd Anghenion Addysgol Arbennig
Oriel
Barod i wneud gwahaniaeth?
O gyrsiau iechyd a gofal cymdeithasol i hyfforddiant gofal plant, cwnsela, a mwy - rydym yn barod i’ch helpu i ddechrau gyrfa llawn pwrpas.
Edrychwch ar ein cyrsiau llawn amser, rhan amser ac addysg uwch heddiw a chymerwch y cam cyntaf tuag at ddyfodol gwerth chweil.