En

Academi'r Dreigiau

Hanes

Dechreuodd Academi Rygbi Iau’r Dreigiau yn ffurfiol yn 2010 pan ffurfiwyd y bartneriaeth gyda Chlwb Rygbi’ Dreigiau. Mae Academi Rygbi Iau’r Dreigiau yn gweithio mewn partneriaeth â’r Dreigiau i ganiatáu i chwaraewyr gyfuno eu hastudiaethau academaidd â’u datblygiad chwarae rygbi. Mae’r Academi wedi denu chwaraewyr o bob rhan o Went i uwchsgilio wrth agor y cyfle i gyrchu’r byd rygbi proffesiynol.

Coleg Gwent, WRU Partnerships in Education and Dragons logos

Pwrpas

Mae Academi Rygbi’r Dreigiau yn caniatáu i egin chwaraewyr proffesiynol ddatblygu’r sgiliau corfforol, technegol, tactegol a seicolegol cywir i ddod yn chwaraewr proffesiynol yn y dyfodol.

Mae sesiynau hyfforddi’r Academi yn cynnwys datblygu sgiliau, cryfder a chyflyru, paratoi tîm, dadansoddi (unigol a thîm), hyfforddiant un i un a sesiynau datblygu oddi ar y cae. Mae myfyrwyr yn elwa o 16 awr yr wythnos o hyfforddiant pwrpasol gan hyfforddwyr y Dreigiau, fel rhan o raglen ddatblygu ddwy flynedd ochr yn ochr â’u hastudiaethau.

Mae’r Academi yn agored i bob chwaraewr ac yn rhedeg dau dîm, mae’r XV 1af yn cystadlu yng Nghynghrair Colegau ac Ysgolion Cymru URC lle mae gemau wythnosol yn cael eu ffrydio’n fyw gydag uchafbwyntiau’r gemau ar Rygbi Pawb ar S4C. Mae gemau’r 2il XV yn adlewyrchu’r XV 1af yn y tymor cyntaf yn ogystal â chwarae yn eu cynghrair eu hunain ar ôl y Nadolig.

Llwyddiannau

Mae ein Hacademi Rygbi yn llwyddiannus, gan ennill cynghrair Colegau ac Ysgolion Cymru URC ar 2 achlysur, 2013 a 2020. Mae’r academi wedi cynhyrchu 52 o gemau rhyngwladol gradd oedran a thair gêm ryngwladol lawn yn Tyler Morgan (Dreigiau, Scarlets, Cymru, Cymru 7 Bob Ochr ), Elliot Dee (Dreigiau, Cymru) ac Olli Griffiths (Dreigiau, Cymru). Mae llawer o gyn-chwaraewyr yn chwarae ar draws cynghreiriau Undeb Rygbi Cymru tra bod dros 100 o chwaraewyr wedi cynrychioli Clwb Rygbi y Dreigiau dan 18 yn ystod eu hamser yn Coleg Gwent.

Cyflawniadau Tymor 2022/23 

  • Rownd Derfynol Bowlen Rygbi Colegau ac Ysgolion URC
  • Harri Ackerman Cymru dan 20
  • Harry Rees-Weldon Cymru dan 18
  • Ioan Duggan Cymru dan 18
  • Pum chwaraewr Academi’r Dreigiau
  • 15 chwaraewyr Dreigiau dan 18
  • 15 chwaraewyr Dreigiau dan 17

Cysylltiadau

I gael gwybod mwy am yr hyn y gall yr Academi ei wneud i chi, anfonwch e-bost at rugbyacademy@coleggwent.ac.uk 

Steven Llewellyn

Steven Llewellyn

steven.llewellyn@coleggwent.ac.uk  

Hyfforddwr ein rheolwr tîm a’n blaenwr cynorthwyol. Mae Steve, sy’n gymwys ar Lefel 3 yr URC, wedi trefnu teithiau rygbi unwaith-mewn-oes ar draws De Affrica, Seland Newydd, Hong Kong ac Awstralia. Darlithydd yn Coleg Gwent ers dros 26 mlynedd.

Matthew Jones

Matthew Jones

matthew.jones@coleggwent.ac.uk  

Cyn chwaraewr rygbi proffesiynol ac uwch chwaraewr rhyngwladol Cymru.

Yn gymwys ar Lefel 3 yr URC, Matthew yw cydlynydd yr academi rygbi a phrif hyfforddwr yr Academi i ddynion, ac mae wedi bod yn gyflogedig yn Coleg Gwent ers 10 mlynedd.

Scott Matthews

Scott Matthews

scott.matthews@coleggwent.ac.uk 

Mae Scott yn gyn-fyfyriwr Coleg Gwent, yn chwaraewr proffesiynol ac yn chwaraewr rhyngwladol gradd oedran Cymreig. Yn gymwys ar Lefel 3 yr URC, Scott yw hyfforddwr blaenwyr yr academi i ddynion ac mae wedi bod yn y swydd ers 6 blynedd.

Gradd Sylfaen mewn Rygbi

Mae’r Academi Rygbi wedi ennill statws achrededig Prifysgol De Cymru gan alluogi cyflwyno Gradd Sylfaen PDC mewn Rygbi.

Dragons academy player running with ball
play

Yr hyn y mae ein chwaraewyr presennol yn ei ddweud…