En

Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol

Mae elfen o TG yn cael ei ddefnyddio gan bron bob busnes modern...

Felly mae astudio un o’n cyrsiau cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol yn golygu y bydd galw mawr am eich gwasanaethau. Mae’r byd digidol yn symud yn gyflym ac yn datblygu trwy’r amser – gallwn eich helpu i feithrin y sgiliau a’r wybodaeth ddiweddaraf.

Byddwch yn dysgu mewn ystafelloedd TG sydd wedi’u cyfarparu’n llawn, gyda mynediad at y technolegau, caledwedd a’r feddalwedd ddiweddaraf.  Mae gan ein darlithwyr brofiad ymarferol, sy’n golygu eu bod yn medru trosglwyddo gwybodaeth sy’n hynod berthnasol i’r gweithle.

P’un a ydych yn dymuno arbenigo mewn rhwydweithio, seiberddiogelwch neu raglennu, gallwn gynnig cwrs rhan amser i helpu i roi hwb i’ch dealltwriaeth a magu eich hyder proffesiynol.

Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ym maes TG fel dadansoddwr technegol desg wasanaeth ac rwyf eisiau datblygu fy ngyrfa mewn Rhwydweithio. Mae ceisio cydbwyso bywyd gartref â dau o blant wedi bod yn heriol, ond rwyf wedi cael cefnogaeth arbennig gan fy nhiwtor sydd bob amser yn hapus i helpu.

David Davies
Rhwydweithio CISCO - CCNA

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Gwnewch gais nawr!
icon without background
Darganfod mwy
Tick icon

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau