Cyrsiau rhan amser

Dewis cwrs

Pa un a ydych eisiau newid gyrfa, cael dyrchafiad, dychwelyd i weithio, dechrau eich busnes eich hun neu ddatblygu hobi, gallwch gyflawni rhywbeth arbennig gyda’n cyrsiau rhan-amser.

Mae gennym gannoedd o gyrsiau ichi ddewis o’u plith, ac rydym yn falch o helpu miloedd o bobl fel chi bobl blwyddyn i gymryd y cam nesaf tuag at le yn y brifysgol, cyflawni eu swydd ddelfrydol, ennill cymhwyster proffesiynol neu hyd yn oed ddysgu sgil newydd. A oes gennych ddiddordeb ond yn ansicr a allwch chi dalu’r ffioedd cwrs. Gallai Cyfrif Dysgu Personol am ddim agor y drws.

Yn newydd eleni! Astudiwch un o’n cyrsiau Rhan Amser Uwch ac elwa o hwylustod astudiaeth ran amser wedi’i gyfuno â dysgu wedi’i ariannu’n llawn. Yn gofyn am 12 awr o astudiaeth yr wythnos ar gyfartaledd, mae’r cyrsiau hyn yn cynnig ffordd fforddiadwy o gwblhau’r cymhwyster sydd ei angen arnoch chi, gan weithio o amgylch ymrwymiadau presennol. Gweler ein cyrsiau sydd ar gael yma.

Rydym yn deall pa mor bwysig yw cadw cydbwysedd rhwng dysgu ac elfennau eraill eich bywyd, felly bydd ein cyrsiau rhan-amser hyblyg yn gwbl addas ar eich cyfer chi. A gan ein bod wedi ein lleoli ar bum campws, gallwn gynnig cyfleoedd addas i bawb yn ein cymunedau lleol.

Felly gwnewch gais heddiw; byddwch yn astudio yn un o’r colegau sy’n perfformio orau yng Nghymru!   Cliciwch ar y meysydd pwnc isod i ddod o hyd i gwrs addas i chi. Sylwch fod rhai cyrsiau ar gael ar gampysau penodol yn unig – mae’r wybodaeth ar gael ar bob tudalen cwrs.

Tanysgrifio
Mailing arrow icon
Female cut out image

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau