En
A university qualification could be closer than you think

Gall cymhwyster prifysgol fod yn agosach nag y credwch


9 Ionawr 2022

Ydych chi’n cwestiynu a ydi prifysgol yn ddewis realistig i chi ac yn meddwl pa ddewisiadau eraill sydd yna?

Os hoffech chi gael gradd, ond yn methu fforddio’r ffïoedd na’r ymrwymiad amser sy’n ofynnol gyd phrifysgol, efallai bod un opsiwn nad ydych wedi’i ystyried eto… cwrs addysg uwch yn Coleg Gwent.

Mae dewis prifysgol yn anodd ac mae yna sawl peth pwysig sydd angen ichi eu hystyried. Faint mae’r cwrs yn ei gostio? Ymhle byddaf yn byw? Pa gymorth sydd ar gael? Pa mor dda yw’r canlyniadau? A fydd y cwrs a’r dull addysgu yn gweddu imi?

Gyda’r dyddiad cau ar gyfer UCAS – 25ain Ionawr – yn prysur agosáu, gall fod yn benderfyniad llethol a chithau eisiau mwy o amser i feddwl. Felly, dyna lle y daw Coleg Gwent i mewn…

Mae arna’i angen mwy o amser i ystyried fy opsiynau

Fel prifysgolion, cynhara’n y byd y gwnewch gais a sicrhau eich lle ar gwrs addysg uwch y gorau oll yn Coleg Gwent, gan fod llefydd gwag yn llenwi’n gyflym. Ond gyda chwrs lefel prifysgol yn Coleg Gwent, gallwch wneud cais uniongyrchol i ni yn hytrach na mynd drwy UCAS*, felly gallwch wneud cais unrhyw amser hyd nes y bydd y cwrs yn dechrau. Mae hynny’n golygu na fydd angen poeni am ddyddiad cau UCAS yn dynesu, er ein bod yn argymell ichi wneud cais yn fuan rhag ichi gael eich siomi!

Higher Education university students at Coleg Gwent

Mae’r broses ymgeisio’n teimlo’n llethol

Mae ein proses ymgeisio ni ar gyfer cyrsiau lefel prifysgol yn Coleg Gwent yn symlach hefyd. Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion yn gofyn ichi gwblhau cais hirfaith gyda datganiad personol manwl, ond dydyn ni ddim. Mewn gwirionedd, nid oes gennym ni ofynion mynediad llym chwaith. Mae prifysgol bywyd yn rhywbeth yr ydym yn ei gymryd o ddifri yn Coleg Gwent ac mae gennym wahanol lefelau o gymhwysterau prifysgol i ddewis ohonynt. Rydym yn ystyried bob ymgeisydd yn unigol, gan edrych ar eich profiad bywyd a gwaith yn ogystal ag unrhyw gymwysterau blaenorol sydd gennych.

Mae prifysgol yn mynd i gostio gormod

Gall ffïoedd prifysgol fod yn gostus, ond mae cwrs addysg uwch yn Coleg Gwent yn costio llai nag a feddyliech. Mae ein cyrsiau addysg uwch yn cael eu goruchwylio gan ein partneriaid prifysgol, megisPrifysgol De Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerwrangon, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Pearson. Felly, wrth astudio cwrs addysg uwch yn y coleg, byddwch yn ennill cymhwyster gradd gydnabyddedig, bydd eich tystysgrif yn dod gan y brifysgol, a chewch eich gwahodd i’w seremoni raddio…ond bydd y cyfan yn costio llai!

Higher Education university students at Coleg Gwent

Dwi ddim yn siwr a fydda i’n mwynhau bod yn fyfyriwr prifysgol

Tydi darlithoedd ddim at ddant pawb, gan fod pawb yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol. Felly, ar gwrs addysg uwch yn Coleg Gwent, byddwch yn astudio ar gampws coleg lleol, mewn amgylchedd dosbarth cyfeillgar a bach yn hytrach na theatrau darlithio mawr a phrysur. Mae gennym ystod o 42 o gyrsiau addysg uwch gwahanol ar gael ar gampysau lleol i’ch cartref, felly mae cymhwyster prifysgol yn agosach nag a feddyliech ac yn gweddu’n well i’ch ffordd o fyw, eich ymrwymiadau a’ch hoff ffordd o ddysgu.

Beth am gymorth ychwanegol a chyfleusterau dysgu?

Yn Coleg Gwent, mae pob dysgwr yn cael tiwtor personol dynodedig i’w cefnogi trwy gydol eu hastudiaethau, felly bydd gennych rywun wrth law bob amser i roi arweiniad pan fo angen. Mae gennym ystod o wasanaethau cymorth i’ch helpu i ffynnu tra yn y coleg hefyd, o gymorth dysgu i gymorth ariannol. Gallwch hyd yn oed fod yn gymwys am gymorth ariannol a chymorthdaliadau i’ch helpu chi gyda chost astudio! Gan fod ein cyrsiau lefel prifysgol wedi’u dilysu gan ein partneriaid prifysgol, bydd modd ichi ddefnyddio cyfleusterau’r brifysgol, canolfannau dysgu’r campws, adnoddau ar-lein a’r Undeb Myfyrwyr hefyd.

Gyda gradd, gallwch ennill £10,000 y flwyddyn yn fwy na’ch cyfoedion sydd heb radd! Felly, os ydych eisiau ennill cymhwyster prifysgol a bod yn fyfyriwr graddedig, ystyriwch gwrs addysg uwch yn Coleg Gwent gan gymryd eich cam nesaf yn agos at gartref. Cofrestrwch ar gyfer ein digwyddiad addysg uwch agored nesaf i ddarganfod mwy, neu gwnewch gais!

 

* (ar wahân i Rheoli Llesiant ac Ymarfer Corff yn Parth Dysgu Bleanau Gwent)