En

Addysg Uwch

Mae cymhwyster lefel prifysgol o fewn eich gafael!

Mae gennym nifer cynyddol o gyrsiau lefel prifysgol yn Coleg Gwent felly gallwch arbed amser ac arian ac astudio cwrs addysg uwch yma ar eich stepen drws.

Mae ein cyrsiau wedi’u dilysu gan bartneriaid ein prifysgol, ac yn rhoi hawl i chi ddefnyddio cyfleusterau’r brifysgol, gan gynnwys canolfannau dysgu’r campws, adnoddau ar-lein a’r Undeb Myfyrwyr. Bydd eich tystysgrif yn cael ei gyflwyno gan y brifysgol, a chewch eich gwahodd i’w seremoni raddio!

Mae astudio yn Coleg Gwent yn golygu y byddwch wedi’ch lleoli mewn amgylchedd dosbarth bach, cyfeillgar ac, fel myfyriwr addysg uwch, gallwch fod yn gymwys i wneud cais am gymorth ariannol a chymorthdaliadau i’ch helpu chi gyda chost astudio.

Poeni ynghylch gofynion mynediad? Nid oes gennym ofynion mynediad llym a does dim rhaid gwneud cais drwy UCAS ar gyfer y rhan fwyaf o’n cyrsiau, sy’n gwneud y broses ymgeisio mor rhwydd ag sy’n bosibl.

Eisiau dysgu mwy? Cymerwch gip ar yr opsiynau isod i ddysgu mwy am ein cyrsiau lefel prifysgol yn Coleg Gwent.

Learners walking and talking
play

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau