En

Canllaw i Gymwysterau ar Lefel y Brifysgol

Dewis y cwrs iawn

Mae sicrhau eich bod ar y cwrs iawn yn hanfodol gan y gall ddylanwadu ar eich cam nesaf a’ch dyfodol yn y tymor hir.

Book icon

Graddau Sylfaen

Mae Gradd Sylfaen yn cyfuno astudiaeth academaidd gyda dysgu yn y gweithle/sy’n gysylltiedig â gwaith. Maent yn gyfwerth yn gyffredinol â dwy flynedd gyntaf Gradd Baglor, ac wedi’u dylunio gyda sector cyflogaeth penodol dan sylw – felly, gyda chymorth sefydliadau yn y maes hwnnw, rydych yn cael y sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Fel rheol, byddwch yn cael y cyfle i ddysgu yn y gweithle yn ogystal ag yn yr ystafell ddosbarth. Unwaith y byddwch wedi cyflawni Gradd Sylfaen, gallwch ddefnyddio eich cymhwyster a’ch profiad gwaith i ddod o hyd i waith neu ‘godi’ eich cymhwyster i Radd Baglor lawn. Mae hyn fel rheol yn cynnwys dwy flynedd ychwanegol o astudio.

Frame icon

Higher National Certificates (HNCs) and Higher National Diplomas (HNDs)

Cyrsiau cysylltiedig â gwaith yw’r rhain a werthfawrogir yn fawr gan gyflogwyr yn y DU a dramor. Tra bod Gradd Baglor yn tueddu i ganolbwyntio mwy ar ennill gwybodaeth, mae HNCs a HNDs wedi’u dylunio i roi i chi’r sgiliau i ddefnyddio’r wybodaeth honno yn effeithiol mewn galwedigaeth benodol.

Mae cymwysterau Cenedlaethol Uwch yn gwneud mwy na’ch paratoi ar gyfer gwaith. Mae rhai HNCs yn caniatáu mynediad uniongyrchol i ail flwyddyn rhaglen radd ac mae nifer o HNDs yn caniatáu mynediad uniongyrchol i drydedd flwyddyn Gradd Anrhydedd. Gall HNCs neu HNDs hefyd eich cyflwyno i nifer o gyrff proffesiynol. Felly, p’un a ydych eisiau mynd yn syth i mewn i waith neu barhau â’ch astudiaethau, gall ennill cymhwyster cenedlaethol uwch fod yn ffordd dda o gychwyn arni.

degree icon

Graddau 'Atodol'

A Top-up degree is the equivalent to the final year of undergraduate study, giving you a Bachelor’s level qualification. As the name suggests, these courses enable you to ‘top-up’ an existing qualification, whether that’s a Foundation degree or another relevant qualification, like an HND.

Every course has its own entry requirements, so check the course you’re interested in to find out exactly what you’ll need to be able to apply, in addition make sure you check your eligibility for continued student finance.

degree icon 2

Cymwysterau proffesiynol

Mae’r rhain yn canolbwyntio ar eich gallu i lwyddo mewn galwedigaeth benodol, sy’n berffaith os oes gennych nod clir o ran gyrfa ac yn dymuno ennill profiad gwaith gwerthfawr. Mae nifer o yrfaoedd yn gofyn am gymwysterau proffesiynol, ond mewn achosion eraill nid ydynt yn hanfodol. Pa bynnag un sy’n wir i chi, maent yn eich caniatáu i ennill mwy o gymhwysedd yn eich maes a gwella eich siawns o symud ymlaen.

Arrow up icon

Mynediad i Addysg Uwch

Mae cwrs Mynediad i Addysg Uwch yn gwrs Lefel 3 sydd wedi’i gynllunio i baratoi dysgwyr â’r sgiliau sydd eu hangen i ddilyn astudiaeth lefel uwch.

Mae cwrs Mynediad yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr hŷn sydd eisiau newid gyrfa neu sy’n dychwelyd i astudio ar ôl seibiant a mae wedi’i gynllunio i sicrhau eich bod yn barod ar gyfer astudio ar lefel prifysgol. Mae opsiynau i astudio’n llawn amser neu’n rhan amser a gallwch ddewis cwrs sy’n addas i’ch llwybr gyrfa.

Gofynion Mynediad

Ystyrir ceisiadau i bob cwrs ar sail unigol. Mae manylion y gofynion mynediad arferol isod, ond os nad ydych yn bodloni’r meini prawf hyn, yna bydd eich profiad gwaith a bywyd yn cael eu hystyried.

Rydym yn derbyn cyfuniadau o’r cymwysterau isod, ac mae’n bosib y derbynnir cymwysterau eraill nad ydynt wedi eu nodi megis NVQ Lefel 3, Diploma CACHE, NNEB, neu OCN a OCR Lefel 3. Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn i chi ymgymryd â phrawf rhifedd a/neu lythrennedd. Bydd gwiriad DBS yn angenrheidiol ar gyfer cyrsiau penodol; mae unrhyw feini prawf ychwanegol wedi eu nodi ar dudalennau’r cyrsiau unigol. Bydd myfyrwyr hŷn sydd ddim yn bodloni’r cymwysterau academaidd, ond sydd â phrofiad perthnasol yn eu diwydiant, yn cael eu hystyried yn unigol drwy gyfweliad.

Os nad ydych yn sicr a ydych yn bodloni’r gofynion mynediad, cysylltwch â ni.

Teipiwch Fel rheol byddai angen o leiaf un o'r canlynol arnoch chi: Yn ogystal â:
HNC, HND a Graddau Sylfaen Proffil BTEC Lefel 3 gyda Teilyngdod/Teilyngdod DD ar Lefel A Graddau DE ar Lefel A, gyda gradd C Bagloriaeth Cymru Mynediad at Addysg Uwch lle rydych wedi llwyddo mewn Diploma gyda 45 'llwyddo' Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).
Tystysgrifau Addysg Uwch Proffil BTEC Lefel 3 gyda Teilyngdod/Llwyddo neu Llwyddo/Llwyddo/Llwyddo CC ar Lefel A Graddau DE ar Lefel A, gyda gradd C Bagloriaeth Cymru Mynediad at Addysg Uwch lle rydych wedi llwyddo mewn Diploma gyda 15 Teilyngdod a 30 Llwyddo Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).

Ddim yn siŵr eich bod chi'n bodloni'r gofynion mynediad?

Os nad ydych yn bodloni’r gofynion mynediad, efallai y byddwch am ystyried cwrs Mynediad i Addysg Uwch (llawn amser neu rhan amser).

Mae cwrs Mynediad i Addysg Uwch wedi’i gynllunio i baratoi dysgwyr â’r sgiliau sydd eu hangen i ddilyn astudiaethau lefel uwch.

Os nad ydych chi’n hollol barod i astudio addysg uwch, mynediad i addysg uwch yw’r llwybr perffaith i’ch cyrraedd chi yno!