
Llwybr i Radd
Mae gradd prifysgol yn gyraeddadwy hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gymwysterau blaenorol.
Hefyd yn cael eu hadnabod fel cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch, gallwch ddewis o amrywiaeth o lwybrau i’ch arwain chi at eich cwrs gradd dewisol gan eich rhoi chi ar ben ffordd i lwyddo a sicrhau eich swydd ddelfrydol.
Byddwch yn dysgu sut i fynd ati i astudio a’r technegau gwahanol y byddwch eu hangen i fod yn fyfyriwr llwyddiannus. Mae cynnwys y cwrs wedi ei ddylunio i sicrhau eich bod chi’n gymwys i astudio yn y brifysgol.
Mae sawl un yn bryderus wrth gychwyn cwrs Mynediad i Addysg Uwch, yn enwedig os nad ydynt wedi bod mewn dosbarth ers peth amser. Ond peidiwch â phoeni; ni fyddwn yn holi cwestiynau ar bethau nad ydych yn gyfarwydd â nhw.
Rydym ni’n gwybod bod gennych chi, fel oedolyn, gyfrifoldebau ac ymrwymiadau y mae angen eu hystyried ochr yn ochr â’ch astudiaeth, boed hynny’n ymwneud â magu plant, gofalu am eich teulu, neu ennill arian i dalu’r biliau. Mae ein tiwtoriaid yn ymwybodol o ymrwymiadau eraill, felly maen nhw’n garedig, yn gefnogol ac yn hyblyg. Efallai y byddwch yn gymwys i gael grantiau a chymorth ariannol i’ch helpu gyda chostau astudio hyd yn oed.
Er bydd rhai agweddau o’r cwrs yn heriol, prif bwrpas cwrs Mynediad i Addysg Uwch ydi’ch helpu chi i fod yn llwyddiannus. Bydd y cwrs yn eich cynorthwyo chi i ddatblygu popeth y byddwch ei angen ar gyfer y brifysgol, heb unrhyw ragdybiaethau am eich profiad.
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth.
Agored Cymru Mynediad at Addysg Uwch - Dyniaethol a Wyddor Cymdeithas Lefel 3
Parth Dysgu Blaenau Gwent |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
Agored Cymru Mynediad at Addysg Uwch - Dyniaethol a Wyddor Cymdeithas Lefel 3
Campws Dinas Casnewydd |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
Agored Cymru Mynediad at Addysg Uwch Agored Cymru - Gwyddorau Iechyd a Meddygol Lefel 3
Campws Dinas Casnewydd |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
Agored Cymru Agored Cymru Mynediad i AU - Meddygaeth Lefel 3
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
Agored Cymru Mynediad at Addysg Uwch Agored Cymru - Nyrsio, Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd Lefel 3
Parth Dysgu Blaenau Gwent |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
Agored Cymru Mynediad at Addysg Uwch Agored Cymru - Nyrsio, Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd Lefel 3
Campws Dinas Casnewydd |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
Agored Cymru Mynediad at Addysg Uwch Agored Cymru - Nyrsio, Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd Lefel 3
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
Agored Cymru Mynediad at Addysg Uwch Agored Cymru - Plismona Lefel 3
Parth Dysgu Blaenau Gwent |
Rhan Amser Estynedig Dysgu rhan amser am 12 awr yr wythnos (weithiau mwy) gydag argaeledd grantiau.
|
Gweld y cwrs |
Agored Cymru Dychwelyd i Ddysgu – Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach Lefel 2
Campws Dinas Casnewydd |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
Roeddwn i eisiau datblygu fy astudiaethau er mwyn gallu mynychu’r brifysgol i fod yn barafeddyg. Mae’r Cwrs Mynediad yn crynhoi dwy flynedd o gwrs Lefel A i gyfnod o flwyddyn, fel cwrs carlam. Rydych chi’n dysgu llawer am amrywiaeth eang o fodiwlau, gan ennill profiad a’r wybodaeth i ddatblygu’ch astudiaethau a gwella’ch hun.
Grace Long
Mynediad i Nyrsio, Meddygaeth a Gofal Iechyd
Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr