*Bydd cynnig eich cwrs yn seiliedig ar gymwysterau neu brofiad gwaith cyfwerth
Ar ôl dod o hyd i gwrs Addysg Uwch mae gennych ddiddordeb ynddo, mae gwneud cais yn hawdd – cliciwch ar y ddolen gwneud cais nawr ar waelod tudalen y cwrs o’ch dewis i roi cychwyn arni. Rhennir y cais yn bum cam hawdd, ac mae’n cymryd ychydig funudau i’w gwblhau.
Os hoffech fwy o wybodaeth, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch ein Tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar ar 01495 333777 neu e-bostiwch helo@coleggwent.ac.uk.
Derbyn cynnig
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais, byddwn yn ei asesu yn seiliedig ar y meini prawf perthnasol, ac yn cynnig lle amodol i chi yn y coleg. Mae’r gofynion mynediad yn dibynnu ar y cwrs rydych yn gwneud cais amdano, ac rydym yn rhoi ystyriaeth i brofiad gwaith hefyd. Os hoffech ddysgu mwy am y gofynion mynediad ar gyfer un o’n cyrsiau Addysg Uwch, cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr ar 01495 333777.
Derbyn eich cynnig
Bydd angen i chi dderbyn eich cynnig drwy fewngofnodi i’ch cyfrif Coleg Gwent. Os hoffech fwy o gyngor ac arweiniad cyn derbyn eich cynnig, gallwch ddewis yr opsiwn hwn a threfnu apwyntiad gyda’n tîm Recriwtio Myfyrwyr.
Sicrhewch fod eich cyfeiriad e-bost yn gywir ar eich cais, gan y byddwn yn anfon diweddariadau rheolaidd i’r cyfeiriad y byddwch yn ei ddarparu.
Cofrestru ar eich cwrs
Fel arfer, bydd y cyfnod cofrestru a chynefino yn digwydd yn gynnar ym mis Medi. Byddwn yn rhoi gwybod i chi’n agosach at yr amser ar ba ddyddiad fydd angen i chi ddod i’r coleg, a beth fydd angen i chi ddod gyda chi. Tra rydych yn y coleg, gallwch ddysgu mwy gan y bobl fydd yn eich addysgu chi, cwrdd ag eraill ar eich cwrs a dechrau ymgyfarwyddo â champws y coleg. Disgwylir i chi fod yn y coleg am hyd at ddau ddiwrnod.
*Noder bod yn rhaid defnyddio proses geisiadau UCAS wrth wneud cais am gyrsiau Prifysgol Caerwrangon.
Cydnabod Dysgu Blaenorol
Mae Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) yn rhoi cyfle i chi ennill cydnabyddiaeth am gyflawniadau academaidd perthnasol blaenorol ac yn caniatáu trosglwyddo credydau i’r cwrs newydd er mwyn osgoi dyblygu dysgu blaenorol.

COFIWCH YMGEISIO
Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau’n llenwi’n gyflym, felly gwnewch gais heddiw.
Roedd gwneud cais yn rhwydd! Roeddwn i’n nerfus oherwydd fy oedran a minnau wedi gweithio’n llawn amser ers i mi adael yr ysgol, roeddwn i’n credu mai dyna oedd fy unig opsiwn. Bu’r cam cyfweliad yn gymorth mawr i mi gan eu bod wedi ateb fy holl gwestiynau a thawelu fy meddwl, felly roeddwn yn falch iawn o gael lle ar y cwrs.
