En

Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol

Beth yw Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL)?

Mae Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) yn cynnig y cyfle ichi ennill cydnabyddiaeth o lwyddiannau academaidd perthnasol blaenorol ac yn caniatáu i gredyd cael ei drosglwyddo i’r cwrs newydd, er mwyn osgoi dyblygu dysgu blaenorol. Mae’n rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus arddangos eu bod wedi cyflawni canlyniadau dysgu’r modiwl yn flaenorol.

Gellir caniatáu RPL hefyd os ydych wedi arddangos bod gennych wybodaeth, sgiliau a phrofiad sefydledig yr ydych wedi eu meithrin drwy gyrsiau hyfforddi, cyflogaeth, cyrsiau datblygiad proffesiynol, gwaith gwirfoddol, astudiaeth breifat a gall presenoldeb blaenorol mewn ysgol neu goleg gyfrif tuag at eich gradd; os yw’n ddiweddar ac yn berthnasol i’r cwrs yr ydych yn ei astudio, ac os gallwch ddarparu tystiolaeth argyhoeddedig ar ei gyfer. Am ragor o wybodaeth, neu i drafod eich opsiynau, dewch draw i’n un o’n digwyddiadau agored/gwybodaeth.

Y broses

  • Trafod eich bwriad gydag arweinydd y cwrs a chofrestru eich bwriad gyda nhw dros e-bost
  • Cofrestru ar y cwrs sydd o ddiddordeb i chi
  • Cysylltu â’ch tiwtor a byddant yn eich cefnogi chi i gwblhau’r ffurflen gywir
  • Cwblhau’r ffurflen Cais am RPL a’i chyflwyno i’ch tiwtor
  • Hysbysiad o gredyd a wobrwyir

Tystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi eich cais am RPL

Wrth asesu RPL ar gyfer Achrediad, dylai’ch dysgu blaenorol fod wedi ei fapio i ganlyniadau dysgu un ai modiwlau unigol o fewn y cwrs, canlyniadau dysgu lefel/cam dros dro fel y nodir ym manyleb y cwrs.

  • Disgrifiad o gynnwys a chanlyniadau dysgu’r rhaglenni/modiwlau rydych wedi eu cwblhau (e.e. dyfyniadau o lawlyfr y cwrs, disgrifiadau modiwl, manyleb rhaglen, neu ddolenni i’r tudalennau gwe perthnasol).
  • Adysgrif academaidd o’ch rhaglen astudiaeth flaenorol. Fel arfer, dylai hyn gynnwys cadarnhad o’r sefydliad a’r corff dilysu; teitl y rhaglen/cwrs a astudiwyd; eich enw; dyddiadau astudio; a (lle bo’n briodol) y modiwlau a lwyddwyd, pwyntiau credyd a lwyddwyd a dyfarniad terfynol.

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau