En

Pam astudio gyda ni?

Nid oes rhaid talu'n ddrud

Mae’r rhan fwyaf o’n cyrsiau addysg uwch yn costio oddeutu £7,500, sy’n rhatach na’r rhan fwyaf o brifysgolion – gan arbed miliynau o bunnoedd ichi. Mae astudio’n lleol yn Coleg Gwent yn golygu y gallech hefyd fod yn gymwys am gymorth ariannol, bwrsariaethau a grantiau i’ch helpu chi gyda chost astudio.

Mynnwch brofiad y brifysgol

Mae ein cyrsiau lefel prifysgol yn cael eu dilysu gan ein partneriaid prifysgol cydweithredol; Prifysgol De Cymru, Prifysgol Aberystwyth, the University of Worcester, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Pearson.

Mae Coleg Gwent yn croesawu ceisiadau uniongyrchol am gyrsiau Addysg Uwch. Felly, nid oes angen gwneud cais drwy UCAS (ar wahân i gyrsiau a fasnachfreintir drwy Brifysgol Caerwrangon).

Mae ein partneriaethau cryf â’n Prifysgolion yn golygu bod gennych hawl i ddefnyddio cyfleusterau’r brifysgol, gan gynnwys canolfannau dysgu’r campws, adnoddau ar-lein a’r Undeb Myfyrwyr. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn derbyn tystysgrif sy’n cael ei gyflwyno gan y brifysgol, a byddwch hyd yn oed yn cael gwahoddiad i’w seremoni raddio!

Nid oes gofynion mynediad llym

Nid oes gennym ofynion mynediad llym a does dim rhaid gwneud cais drwy UCAS*. Rydym yn edrych ar bob unigolyn ac yn ystyried eich bywyd a’ch profiad gwaith, yn ogystal â chymwysterau blaenorol.

*Rhaid gwneud cais drwy UCAS ar gyfer cyrsiau a ddilysir gan Brifysgol Caerwrangon.

Rydym ni'n lleol

Gall gadael cartref i fynd i brifysgol fod yn gam mawr, a gydag ymrwymiadau gwaith a theulu – nid yw’n bosibl bob amser. Gyda thoreth o gyrsiau addysg uwch ar draws ein pum campws – ni all astudio cymhwyster lefel prifysgol ar stepen eich drws fod dim haws!

Cyfleoedd Gwych

Bydd ein cyrsiau addysg uwch yn eich darparu â sgiliau sy’n ymwneud â gyrfa a phrofiad mewn diwydiant penodol y mae cyflogwyr yn chwilio amdano. Mae ein cyrsiau yn broffesiynol berthnasol ac fe allant roi’r fantais gystadleuol i chi, gan arwain at y potensial o gyflog uwch a chyfleoedd gwell.

Digonedd o ddewis

Mae ein hystod eang o bynciau ac opsiynau astudio yn golygu y gallwch astudio’n llawn amser neu’n rhan amser – i gyd-fynd â gwaith neu ymrwymiadau eraill. Gyda phum campws i ddewis o’u plith, rydym yn hyderus y dewch o hyd i rywbeth sy’n addas i chi!

Profiad yn y gweithle

Fel rheol, mae ein cyrsiau yn cynnwys dysgu yn y gweithle yn ogystal ag yn y coleg, felly byddwch yn ennill sgiliau sy’n ymwneud â gyrfa a phrofiad mewn diwydiant penodol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, ac felly cewch gyfle da i ddod o hyd i yrfa eich breuddwydion.

Tiwtora Gwell

Mae maint llai ein dosbarthiadau yn golygu y byddwch yn derbyn cymorth gan staff darlithio a staff cymorth ymroddedig, ac mae ein campysau yn groesawgar a chyfeillgar.

Gwnewch o'n llwyddiant

Mae dros hanner ein myfyrwyr addysg uwch yn astudio gradd sylfaen ac yn ychwanegu at eu gradd ar eu blwyddyn olaf yn ein prifysgolion partner.

Felly, gallwch aros yn lleol ac arbed amser ac arian teithio, llety a ffioedd dysgu* yn Coleg Gwent.

Felly, os ydych chi wedi rhoi eich bryd ar ennill cymhwyster lefel prifysgol – gallwch wneud hynny yn Coleg Gwent!

*yn ddibynnol ar eich dewis o gwrs a phrifysgol bartner ddilysu.

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau