En

Ffioedd Addysg Uwch

Cyrsiau a achredir gan Brifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Aberystwyth

Mae cyrsiau llawn amser Gradd Sylfaen, cyrsiau HNC a HND a achredir gan Brifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a’r BSc Astudiaethau Ceffylau atodol gyda Phrifysgol Aberystwyth yn £7,500 y flwyddyn. Bydd pob cwrs blwyddyn ychwanegol BSc a BA, a BA 3 blynedd yn costi £9,000 y flwyddyn. Nodwch, mae ffioedd cyrsiau rhan amser yn wahanol.


Cyrsiau a achredir gan Brifysgol Caerwrangon

Mae Graddau Sylfaen a achredir gan y brifysgol hon yn £9,250 y flwyddyn.

Cyrsiau a achredir gan Pearson

Mae gan gyrsiau a achredir gan Pearson wahanol ffioedd, yn dibynnu ar natur y cymhwyster. Os bydd eisiau mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’r tîm Derbyniadau ar 01495 333777.

Rhan amser

Mae ffioedd ar gyfer cyrsiau rhan amser yn amrywio, yn dibynnu ar y rhaglen astudio (ewch i’n polisi ffioedd).

Addysgu a hyfforddi'r gweithlu

Ar gyfer 2022-23 mae’r ffioedd fesul 20 Credyd yn £900 – fel arfer, byddwch yn astudio 60 chredyd mewn blwyddyn academaidd.

Costau ychwanegol

Efallai y bydd gan eich cwrs gostau eraill, a allai fod yn orfodol neu’n ddewisol. Bydd y rhain yn ychwanegol at ffioedd dysgu a rhaid ichi eu talu er mwyn gallu cymryd rhan yn llwyr yn eich rhaglen astudio, a’i chwblhau. Gall costau o’r fath fod ar gyfer cyfarpar, tripiau, lleoliadau a gwiriadau DBS. Mae gan bob rhaglen gostau ychwanegol gwahanol a nodir y rhain yng ngwybodaeth y cyrsiau ar ein gwefan.