En

Telerau, Amodau a Pholisïau Addysg Uwch

Gellir dod o hyd i Bolisïau Addysg Uwch Coleg Gwent, ynghyd â pholisïau ein Partneriaid isod

Ar gyfer rhaglenni wedi’u rhyddfreinio (Prifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerwrangon), bydd y Coleg yn gweithio gyda’r Sefydliad AU perthnasol ac yn gwasanaethu ei rwymedigaethau cytundebol i fyfyrwyr a chydymffurfio â’i ymrwymiadau dan ddeddf defnyddwyr fel yr amlinellir gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Wrth gyflawni hynny, bydd y Coleg a’r Sefydliadau AU yn gweithio i amddiffyn budd y myfyrwyr wrth ymateb i amgylchiadau megis newidiadau sylweddol i’r modd y darperir cwrs neu ddod â chwrs i ben. Mae gan y Coleg weithdrefnau yn eu lle i ymateb i’r amgylchiadau hyn a fydd yn lleddfu’r effaith bosibl ar fyfyrwyr ac sydd yn cydnabod anghenion gwahanol ei gorff myfyrwyr amrywiol.

Ar gyfer rhaglenni nad ydynt wedi’u rhyddfreinio (Pearson), bydd y Coleg yn gwasanaethu ei rwymedigaethau cytundebol i fyfyrwyr ac yn cydymffurfio â’i ymrwymiadau dan ddeddf defnyddwyr fel yr amlinellir gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Wrth gyflawni hynny, bydd y Coleg a’r Sefydliadau AU yn gweithio i amddiffyn budd y myfyrwyr wrth ymateb i amgylchiadau megis newidiadau sylweddol i’r modd y darperir cwrs neu ddod â chwrs i ben. Mae gan y Coleg weithdrefnau yn eu lle i ymateb i’r amgylchiadau hyn a fydd yn lleddfu’r effaith bosibl ar fyfyrwyr ac sydd yn cydnabod anghenion gwahanol ei gorff myfyrwyr amrywiol.