Cymorth

PEIDIWCH Â CHOLLI ALLAN!
Mae cyrsiau’n llenwi’n gyflym, felly gwnewch gais heddiw..
Yn gyffyrddus yn yr ysgol gyfun, penderfynodd Martyn aros yn y chweched, er mwyn bod gyda’i ffrindiau. Ond wedi methu ei arholiadau Safon Uwch, penderfynodd ddilyn cwrs galwedigaethol Lefel 3 yng Ngholeg Gwent. Mae bellach yn edrych ymlaen at ei flwyddyn olaf yn y brifysgol.
“Dwi’n difaru peidio â mynd i’r coleg yn syth wedi fy TGAU a pheidio â gwastraffu dwy flynedd, ond do’n i ddim yn gwybod y gallech chi gael eich derbyn i brifysgol heb Lefel A,” dywed Martyn, o Gwmbrân. “Mae’r cwrs busnes, y profiad gwaith a’r brwdfrydedd dros lwyddo wedi rhoi hwb i fi ac wedi gwneud i fi gredu ynof fy hun. Mae wedi ’ngyrru yn fy ’mlaen i chwilio am swydd farchnata.”
Mae’r ffordd mae Martyn yn meddwl am ddysgu wedi newid yn llwyr ers iddo fynd i’r coleg; mae wedi sylweddoli ei fod yn yr amgylchedd iawn, a bod ganddo gefnogaeth a dysgu da, a thrwy hyn gall gyflawni mwy nag y breuddwydiodd amdano erioed. “Pan o’n ni’n y chweched dosbarth dywedwyd wrthon ni y bydden ni’n cael ein trin fel oedolion, ond mae’n anodd tyfu pan ydych chi’n dal yn yr un lle – meddylfryd ysgol oedd yno,” eglura Martyn, sydd bellach yn 23 oed.
