En
Healthcare learners at Coleg Gwent

Dod yn arwr bob dydd mewn gofal iechyd


15 Gorffennaf 2023

Pam ddylwn i ystyried gyrfa ym maes gofal iechyd?

Mae sawl rheswm arbennig dros ystyried gweithio yn y sector hwn a dod yn arwr gofal iechyd, a gall gyrfa yn y maes gofal iechyd fod yn agosach nag y tybiwch. Felly, beth am ymuno â Digwyddiad Agored nesaf Coleg Gwent i ddysgu mwy am y llwybrau gwahanol sydd ar gael i chi… Mae’n llawer mwy eang a chyfannol na meddygaeth a nyrsio’n unig!

Amrywiaeth o swyddi

Rolau gofal iechyd

Mae’r sector yn cynnwys ystod eang o swyddi a lleoliadau gwaith amrywiol. Nid yw gofal iechyd yn digwydd mewn ysbytai a chartrefi gofal yn unig, ond hefyd mewn therapïau cyflenwol yn y gymuned, labordai gwyddoniaeth, a galwedigaethau hanfodol y tu ôl i’r llenni mewn technoleg ddigidol, peirianneg, gwaith gweinyddol a thu hwnt. Felly mae nifer o sgiliau sydd â galw mawr amdanynt.

Mae pandemig COVID wedi gwneud inni sylweddoli faint rydym yn gwerthfawrogi gwasanaethau gofal cyfannol fel trin gwallt, sy’n effeithio ar ein llesiant mewn ffordd gadarnhaol. Ac rydym hefyd wedi profi effaith gadarnhaol technoleg ddigidol a pheirianneg mewn gofal iechyd hefyd, gyda datblygiadau ac arloesedd yn arwain y ffordd. Felly, mae galw mawr am y sgiliau a’r gwasanaethau hyn, cymaint â rolau gofal, a gyda chyrsiau yn Coleg Gwent, gallwch ennill profiad ymarferol mewn ystod o leoliadau gofal iechyd.

Gallwch archwilio cwrs galwedigaethol mewn Gofal Iechyd a Blynyddoedd Cynnar, Trin Gwallt a Therapi Harddwch, neu Wyddoniaeth, lle byddwch yn ennill gwybodaeth, sgiliau a phrofiad ymarferol i ddechrau eich gyrfa mewn gofal iechyd, neu i ddilyn eich diddordebau mewn peirianneg a thechnoleg i’ch paratoi ar gyfer maes arloesedd iechyd gofal. Neu gallwch archwilio eich holl bynciau ar Safon Uwch, gyda phynciau fel Bioleg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Seicoleg yn bwydo’n naturiol i mewn i swyddi gofal iechyd, ynghyd â thechnoleg a TG os ydych yn awyddus i siapio dyfodol y sector gofal iechyd. Os nad ydych yn siŵr pa bynciau Safon Uwch i’w gwneud, bydd ein llwybr Gwyddoniaeth Gymdeithasol a llwybr Meddygol yn eich arwain i adnabod y clwstwr cywir o bynciau i fynd â chi at yrfa lwyddiannus yn y maes gofal iechyd.

Teimlad da

Mae nifer o bobl yn dewis gweithio yn y maes gofal iechyd er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl eraill. Mae’n cael ei adnabod fel un o’r sectorau mwyaf gwerth chweil, felly byddwch yn cael ymdeimlad cryd o fodlonrwydd swydd. P’un a ydych yn gofalu am blant ac yn dylanwadu arnynt ar gamau cynnar bywyd, yn gofalu am bobl sâl yn yr ysbyty ar adegau anoddaf eu bywydau, yn cynnig gwasanaeth llesiant i wella ansawdd bywyd; neu’n datblygu’r arloesedd gofal iechyd nesaf i helpu i achub bywydau; bydd eich effaith yn un gadarnhaol.

Fel rhan hanfodol o’r gymuned leol, mae Coleg Gwent yn cydnabod bod gweithio mewn gofal iechyd yn eich galluogi i roi’n ôl i’ch cymuned. Ar hyn o bryd, mae’r coleg yn cefnogi Ty Hafan fel eu helusen ddewisol y flwyddyn er mwyn galluogi’r holl fyfyrwyr a staff i fod yn rhan o hyn. Felly, os ydych yn chwilio am yrfa gyda theimlad da a choleg sy’n rhannu’r un ethos, gofal iechyd yn Coleg Gwent yw’r llwybr i chi.

Rhychwantu’r sbectrwm gyrfa

Gall gyrfa mewn gofal iechyd ddechrau ar unrhyw gam yn eich bywyd a mynd â chi i sawl gyfeiriad. P’un a ydych yn gadael yr ysgol ac yn dechrau ar eich taith, yn ddysgwr hŷn yn canolbwyntio ar barhau â’ch datblygiad proffesiynol parhaus, neu’n ystyried newid gyrfa, mae cyrsiau gofal iechyd yn addas ar gyfer unrhyw gam yn eich gyrfa. Mae yna wastad ragor i’w ddysgu a nifer o ffyrdd o ddatblygu eich gyrfa hefyd.

Nid yw hi fyth yn rhy hwyr i ail-hyfforddi a newid cyfeiriad eich gyrfa. Yn dilyn y pandemig, mae nifer o bobl nawr yn ailystyried eu hopsiynau, a gallwch chi fod yn un ohonynt. Mae’r cyfnod clo wedi rhoi mwy o amser i ni feddwl am yr hyn rydym wir ei eisiau a’i angen. Os ydych yn berson gofalgar ac yn frwd dros weithio gyda phobl a gwneud gwahaniaeth, gallwch wneud hyn, waeth beth yw eich ffafriaeth, boed yn TG, Gwyddoniaeth, Peirianneg neu Dechnoleg.  Gall nawr fod yr amser cywir i archwilio gyrfa mewn gofal iechyd hefyd. O gyrsiau lefel mynediad i gymwysterau lefel prifysgol, mae Coleg Gwent yn cynnig popeth. A pheidiwch â phoeni, os nad ydych wedi bod yn y byd addysg ers peth amser, gallwch hefyd astudio Mynediad i Nyrsio, Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd a Mynediad i Ofal Cymdeithasol, i’ch datblygu ar gyfer eich astudiaethau lefel gradd mewn Iechyd a Llesiant, Iechyd Meddwl, ac Astudiaethau Plentyndod.

Gyda chyn nifer o rolau gwahanol a galw cynyddol am sgiliau a gwybodaeth gofal iechyd, gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau. Felly, ymunwch â Digwyddiad Agored nesaf Coleg Gwent i ddysgu mwy am ddod yn arwr gofal iechyd gyda Coleg Gwent a gwnewch gais nawr!

Three healthcare learners from Coleg Gwent