En
Proud to support Ty Hafan

Yn Cyflwyno ein Helusen y Flwyddyn newydd - Tŷ Hafan


1 Mehefin 2023

Rydym yn hynod falch o gyhoeddi taw ein Helusen y Flwyddyn Newydd ar gyfer 2023-2024 yw Tŷ Hafan

Elusen plant flaenllaw yng Nghymru sy’n darparu cysur, gofal a hwyl i blant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd a’u teuluoedd yw Tŷ Hafan. Bob blwyddyn mae’r elusen yn gofalu am dros 300 o blant wrth gefnogi eu teuluoedd.

Trwy ei hosbis fywiog a’i raglenni cymunedol amrywiol, mae Tŷ Hafan yn cynnig gofal seibiant byr i deuluoedd a’u helpu i wneud y gorau o’r amser sydd ganddynt gyda’i gilydd; gan greu atgofion gwerthfawr a sicrhau bod bywyd byr yn fywyd llawn.

Yn Coleg Gwent, rydym wedi ymrwymo i roi yn ôl i’n cymuned, ac mae’r bartneriaeth hon yn caniatáu i ni wneud hynny. Unwaith eto eleni, rydym yn gosod targed uchelgeisiol o £10,000 i’w godi erbyn Awst 2024.

Pam Tŷ Hafan?

Er mwyn sicrhau bod ei wasanaethau am ddim ar gael i gleifion a’u teuluoedd pan fyddant ei angen fwyaf, mae angen i Dŷ Hafan godi £5.2 miliwn o bunnoedd bob blwyddyn, gyda dim ond canran fach a roddir gan Lywodraeth Cymru.

Mae gwasanaethau’r elusen i blant Cymru a’u teuluoedd yn ddibynnol ar ymrwymiad ei chefnogwyr. Rydym yn falch o gefnogi Tŷ Hafan fel ein Helusen y Flwyddyn, i helpu i godi ymwybyddiaeth o waith yr hosbis a chyfrannu cronfeydd hanfodol i gynnal ei hymdrechion parhaus.

  1. Fel coleg, rydym yn cynnig ystod o gyrsiau Iechyd a Gofal, ac rydym yn falch o addysgu darparwyr gofal iechyd y dyfodol a allai fynd ymlaen i weithio mewn hosbis fel Tŷ Hafan.
  2. Rydym yn teimlo’n angerddol dros godi proffil gofal hosbis ymhlith ein cenhedlaeth iau o ddysgwyr nad ydynt efallai’n ymwybodol o’r gwasanaethau gwych y mae hosbisau’n eu darparu.
  3. Rydym eisiau rhoi yn ôl i’n cymuned mewn ffordd real a diriaethol, drwy gefnogi elusen leol sy’n gwasanaethu ein cymuned.
  4. Fel sefydliad sy’n ganolog i’n cymunedau, gobeithiwn ein bod yn gosod esiampl drwy gymryd ein Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol o ddifrif a gwneud gwahaniaeth lle gallwn.
  5. Mae digwyddiadau codi arian hanfodol yr hosbis nid yn unig yn annog ymgysylltiad a chyfranogiad, ond maent hefyd yn ymestyn i galon ein cymuned ac yn cyfrannu at ddiwylliant sefydliadol cadarnhaol.

Digwyddiadau codi arian

I gychwyn calendr digwyddiadau eleni, byddwn yn noddi ras 10k Torfaen, a gynhelir ddydd Sul, 16 Gorffennaf 2023.

Bydd nifer o ddigwyddiadau codi arian eraill yn cael eu cynnal dros y 12 mis nesaf a byddwn  yn annog ein staff a’n dysgwyr i gymryd rhan i helpu i godi arian ar gyfer yr hosbis.

Rydym mor gyffrous i bartneru gyda Thŷ Hafan ac rydym am ddiolch i bawb am gymryd yr amser i bleidleisio dros eu dewis o elusen.

Gwnewch gyfraniad yma

Gallwch ddysgu rhagor am hosbis Tŷ Hafan ar: www.tyhafan.org.