En

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Ydych chi ffansi ymuno â’r ‘gweithwyr hapusaf yn y DU’ yn ôl sawl arolwg cenedlaethol? Yna rhowch y sgiliau, y profiad a’r ymdrech i chi’ch hun i lwyddo ym myd amrywiol a chyffrous trin gwallt neu therapi harddwch.

Bydd y cwrs hwn yn sicrhau eich bod yn wych wrth gyfuno sgiliau cyfathrebu rhagorol, dawn greadigol a sylw i fanylion ac yn gallu cynnal yr ymgynghoriadau cleient hollbwysig hynny a chwblhau steiliau gyda sgil a dod yn steilydd hyfedr a llwyddiannus.

Fel aelod o Raglen Ysgoloriaeth ABLE gydag Andrew Barton, cewch fynediad at diwtorialau a gweithdai arddangos sy’n arwain diwydiant er mwyn symud eich sgiliau i’r lefel nesaf!

ABLE - Andrew Barton London Education

Peidiwch byth â thanbrisio therapydd harddwch da! Mae’r teimlad rhyfeddol y gallwch ei roi i bob cleient yn amhrisiadwy.  Ond nid ydych wedi’ch cyfyngu i’r ystafell harddwch neu’r bar ewinedd yn unig. Gallwch gamu allan o’r salon a dilyn gyrfa yn y maes ymgynghoriaeth harddwch neu brynu neu werthu cynnyrch harddwch. Pob blwyddyn mae graddedigion Coleg Gwent yn mynd ymlaen i weithio ar longau mordaith sy’n rhoi’r cyfle i deithio wrth weithio yn y diwydiant gwerth chweil hwn.

Sector arloesol sy’n tyfu, mae gyrfaoedd mewn iechyd cyfannol a lles yn rhoi llawer o foddhad. Mae yna alw mawr am therapyddion medrus, cymwysedig mewn ystod o therapïau – o aromatherapi i adweitheg i dylino.  Byddwch yn ennill sgiliau a thechnegau ymarferol wedi’u hategu gan y theori sylfaenol.

Fel artist colur, byddech chi’n gwneud colur ac yn steilio gwallt unrhyw un sy’n ymddangos o flaen camera neu gynulleidfa fyw. Gallech weithio mewn ffilm, ar y teledu, yn y theatr, mewn cyngherddau, sesiynau ffotograffiaeth neu sioeau ffasiwn.  O steil naturiol ar gyfer y teledu, i ddefnyddio wigiau a gwallt gosod ar gyfer dramâu cyfnod neu ddefnyddio prosthetigau ar gyfer cynyrchiadau arswyd – nid yw bywyd artist colur byth yn ddiflas.  Gallech weithio ar eich pen eich hun, neu gynorthwyo cydweithiwr, neu fod yn rhan o dîm dylunio gwallt a cholur mwy. Mae’r posibiliadau’n ddi-ben-draw!

Ein cyrsiau llawn amser Ein cyrsiau rhan amser

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

25 cwrs ar gael

Mae gan y coleg bopeth sydd ei angen arnom i ddysgu trin gwallt. Mae’r salonau yn fawr ac mae popeth am y cwrs yn ymarferol iawn. Mae’r tiwtoriaid yn wych am wneud yn siŵr bod popeth yno i ni pan fyddwn ei angen ac maent yn ein cefnogi gyda phopeth. Ar ôl gorffen y cwrs coleg rydw i eisiau salon fy hun.

Chloe Osbourne
Diploma estynedig VRQ2 mewn Trin Gwallt, Lefel 2

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau