Amseroedd Cau Dros Y Nadolig

Mae'r coleg bellach ar gau tan ddydd Llun 5 Ionawr. Os ydych wedi gwneud ymholiad am gwrs neu wedi gwneud cais i ymuno â ni ym mis Ionawr, byddwn yn anelu at ymateb o fewn 3-5 diwrnod gwaith ar ôl i ni ail-agor.

Dymunwn Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda.

  • Llawn Amser
  • Lefel 2

VTCT Diploma NVQ mewn Therapi Harddwch Lefel 2

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Maes Pwnc Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol
Dyddiad Cychwyn
7 Medi 2026
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
2

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i chi er mwyn dechrau gyrfa ym maes therapi harddwch. Byddwch chi’n dysgu am ofal croen, colur ac amrywiaeth o driniaethau i’r corff a hyn oll wrth weithio mewn amgylchedd cadarnhaol a chyfeillgar.

... Rydych chi’n dwlu ar helpu pobl i edrych a theimlo ar eu gorau

... Mae gennych chi ddiddordeb mewn tueddiadau a thechnegau harddwch

... Rydych chi’n mwynhau gweithio â’ch dwylo a bod yn greadigol

... Rydych chi’n dymuno dechrau gyrfa yn y diwydiant harddwch

Mae gyrfa ym maes therapi harddwch yn cynnig cyfuniad buddiol o greadigrwydd, rhyngweithio personol a datblygu sgiliau. Mae gweithwyr proffesiynol yn y maes hwn yn darparu amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys triniaethau gofal croen, gosod colur, gofal ewinedd a dileu blew gan helpu cleientiaid i deimlo ar eu gorau. Wrth i’r diwydiant harddwch esblygu’n barhaus, mae’r llwybr gyrfa hwn yn cynnig cyfleoedd deinamig ar gyfer twf a’r cyfle i gael effaith gadarnhaol ar lefelau hunan-barch a lefelau hyder unigolion.

Byddwch chi’n dysgu am ymgynghori â chleientiaid ac unedau megis:

  • Trin Dwylo a Gofal Dwylo
  • Trin Traed a Gofal Traed
  • Gofal Croen a Gwaith ar yr Wyneb
  • Manwerthu a Hyrwyddo Cynnyrch
  • Derbynfa a Gwasanaeth i Gwsmeriaid
  • Celf Ewinedd
  • Dylunio a gosod colur
  • Triniaethau ar gyfer y llygaid gan gynnwys lliwio blew’r amrannau a’r aeliau a siapio aeliau
  • Cwyro – wyneb a chorff
  • Gallai unedau ychwanegol gynnwys estyniadau blew’r amrannau parhaol ac estyniadau ewinedd

Byddwch yn gweithio ar ddatblygu eich sgiliau mewn ystod o sesiynau ymarferol a theori, gan weithio tuag at asesiadau yn eich sgiliau a'ch dealltwriaeth o'r sector. Mae yna nifer o arholiadau ar-lein yn ogystal ag ystod o asesiadau ymarferol gyda chleientiaid.

Yn ogystal â’ch cwrs, cewch eich annog i gymryd rhan mewn:

  • Cystadlaethau coleg mewnol
  • Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru a UK/World Skills
  • Gweithgareddau cymunedol
  • Diwrnodau ymwybyddiaeth am gynhyrchion a thriniaethau yn y diwydiant

NVQ Diploma Lefel 3 mewn Therapi Harddwch neu Therapïau Cyflenwol

O leiaf 3 chymhwyster TGAU, gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 perthnasol yn y maes galwedigaethol perthnasol, gan gynnwys cymhwyster TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.

Bydd ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau TGAU gofynnol yn cael eu hystyried yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill.

Fel rhan o'r arfer proffesiynol, rhaid i unrhyw wallt gael ei glymu'n daclus i ffwrdd o'r wyneb, a modrwy briodas yw'r unig emwaith a ganiateir yn y salon.

Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, disgwylir i chi brynu’r cit priodol, oddi wrth ein cyflenwr a gymeradwywyd, sy’n costio oddeutu £86, yn amodol ar adolygiad pris/cynnydd pris oherwydd chwyddiant.

I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Y pris yw £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.

Gall costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Mae'r holl gostau wrthi’n cael eu hadolygu a gallant newid.

Beauty student in makeup

Parth Dysgu Blaenau Gwent

Côd y Cwrs
EFDI0443AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Campws Dinas Casnewydd

Côd y Cwrs
NFDI0443AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFDI0443AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy
Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy