Yn gryno
Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i chi er mwyn dechrau gyrfa ym maes therapi harddwch. Byddwch chi’n dysgu am ofal croen, colur ac amrywiaeth o driniaethau i’r corff a hyn oll wrth weithio mewn amgylchedd cadarnhaol a chyfeillgar.
... Rydych chi’n dwlu ar helpu pobl i edrych a theimlo ar eu gorau
... Mae gennych chi ddiddordeb mewn tueddiadau a thechnegau harddwch
... Rydych chi’n mwynhau gweithio â’ch dwylo a bod yn greadigol
... Rydych chi’n dymuno dechrau gyrfa yn y diwydiant harddwch
Mae gyrfa ym maes therapi harddwch yn cynnig cyfuniad buddiol o greadigrwydd, rhyngweithio personol a datblygu sgiliau. Mae gweithwyr proffesiynol yn y maes hwn yn darparu amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys triniaethau gofal croen, gosod colur, gofal ewinedd a dileu blew gan helpu cleientiaid i deimlo ar eu gorau. Wrth i’r diwydiant harddwch esblygu’n barhaus, mae’r llwybr gyrfa hwn yn cynnig cyfleoedd deinamig ar gyfer twf a’r cyfle i gael effaith gadarnhaol ar lefelau hunan-barch a lefelau hyder unigolion.
Byddwch chi’n dysgu am ymgynghori â chleientiaid ac unedau megis:
- Trin Dwylo a Gofal Dwylo
- Trin Traed a Gofal Traed
- Gofal Croen a Gwaith ar yr Wyneb
- Manwerthu a Hyrwyddo Cynnyrch
- Derbynfa a Gwasanaeth i Gwsmeriaid
- Celf Ewinedd
- Dylunio a gosod colur
- Triniaethau ar gyfer y llygaid gan gynnwys lliwio blew’r amrannau a’r aeliau a siapio aeliau
- Cwyro – wyneb a chorff
- Gallai unedau ychwanegol gynnwys estyniadau blew’r amrannau parhaol ac estyniadau ewinedd
Byddwch yn gweithio ar ddatblygu eich sgiliau mewn ystod o sesiynau ymarferol a theori, gan weithio tuag at asesiadau yn eich sgiliau a'ch dealltwriaeth o'r sector. Mae yna nifer o arholiadau ar-lein yn ogystal ag ystod o asesiadau ymarferol gyda chleientiaid.
Yn ogystal â’ch cwrs, cewch eich annog i gymryd rhan mewn:
- Cystadlaethau coleg mewnol
- Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru a UK/World Skills
- Gweithgareddau cymunedol
- Diwrnodau ymwybyddiaeth am gynhyrchion a thriniaethau yn y diwydiant
I gofrestru ar y cwrs hwn, bydd angen i chi feddu ar o leiaf 3 chymhwyster TGAU, gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 perthnasol yn y maes galwedigaethol perthnasol, gan gynnwys cymhwyster TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.
Bydd ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau TGAU gofynnol yn cael eu hystyried yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill.
Yn seiliedig ar eich cymwysterau TGAU, rhoddir gwybod i chi a ydych chi’n fwy addas ar gyfer un o ddau lwybr asesu posibl – cymhwyster Diploma Lefel 2 NVQ/VRQ neu’r Diploma Technegol Lefel 2. Bydd eich tiwtor yn trafod hyn gyda chi yn ystod eich sesiwn anwytho.
Mae Therapi Harddwch yn sector sy’n seiliedig ar ymarfer ymarferol felly mae gweithio mewn ystafelloedd triniaeth, gweithio ar ddysgwyr eraill a gweithio gyda chleientiaid yn rhan fawr o’r cwrs.
NVQ Diploma Lefel 3 mewn Therapi Harddwch neu Therapïau Cyflenwol
O leiaf 3 chymhwyster TGAU, gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 perthnasol yn y maes galwedigaethol perthnasol, gan gynnwys cymhwyster TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.
Bydd ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau TGAU gofynnol yn cael eu hystyried yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill.
Fel rhan o'r arfer proffesiynol, rhaid i unrhyw wallt gael ei glymu'n daclus i ffwrdd o'r wyneb, a modrwy briodas yw'r unig emwaith a ganiateir yn y salon.
Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, disgwylir i chi brynu’r cit priodol, oddi wrth ein cyflenwr a gymeradwywyd, sy’n costio oddeutu £86, yn amodol ar adolygiad pris/cynnydd pris oherwydd chwyddiant.
I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Y pris yw £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.
Gall costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
Mae'r holl gostau wrthi’n cael eu hadolygu a gallant newid.