Yn gryno
Mae'r sector therapi harddwch yn symud yn gyflym a bydd cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd yn ystod ac ar ôl y rhaglen hyfforddi ddiddorol hon
... ydych chi'n greadigol
...oes gennych ddiddordeb brwd mewn harddwch
Ar y cwrs hwn byddwch yn ymdrin â phynciau gan gynnwys:
- Dilyn iechyd a diogelwch o fewn y salon
- Cyflwyniad i'r sector gwallt a harddwch
- Darparu triniaeth dwylo sylfaenol
- Dyletswyddau derbynfa’r salon
- Salon reception duties
- Gofal croen
- Crefft colur ffotograffig
- Peintio wynebau thematig
- Gweithio gydag eraill yn y sector gwallt a harddwch
- Defnyddio colur sylfaenol
- Creu delwedd gwallt a harddwch
- Darparu celf ewinedd
- Cyflwyno delwedd broffesiynol mewn salon
Darperir y cwrs drwy:
- Ddosbarthiadau theori
- Gweithdai ymarferol
- Gwaith grwp
- Teithiau ac ymweliadau
Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg wrth gefnogi myfyrwyr Therapi Harddwch Lefel 2
Yn ogystal â’ch cwrs, cewch eich annog i gymryd rhan mewn:
- Cystadlaethau coleg mewnol
- Gweithgareddau cymunedol
- Diwrnodau ymwybyddiaeth am gynhyrchion a thriniaethau yn y diwydiant
Asesiad
Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau ymarferol, aseiniadau a phrofion amlddewis ar-lein sy'n cwmpasu’r wybodaeth greiddiol
Pan fyddwch yn cwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni:
- Diploma Lefel 1 mewn Therapi Harddwch
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau cymunedol ac arddangosiadau)
Bydd angen i chi fod yn hunanysgogol, yn weithgar, ac yn ymfalchïo yn eich ymddangosiad a bod â phersonoliaeth gyfeillgar.
Cynhelir pob dosbarth ar y campws ac efallai bydd un noson yr wythnos pan fyddwch yn y coleg tan 7.30yp.
Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yn brif ofyniad ar gyfer y cwrs hwn.
Ar ôl cwblhau, gallwch symud ymlaen i Ddiploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch.
Bydd angen i chi fod ag o leiaf 4 TGAU (gradd E neu’n uwch) gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol. Bydd ymgeiswyr heb yr isafswm TGAU yn cael eu hystyried ar sail profiad blaenorol neu gymwysterau eraill.
Cod gwisg:
- Gwisg arbennig
- Mae’n rhaid clymu’r gwallt yn daclus i ffwrdd o’r wyneb
- Dim tyllu: dim ond modrwy briodas y caniateir ei gwisgo yn y salon
I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Mae manylion ar sut i archebu eich gwisg ysgol, ynghyd ag opsiynau talu cyflenwyr, ar gael gan eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Y pris yw tua £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.
Gall costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
Mae'r holl gostau wrthi’n cael eu hadolygu a gallant newid.