Yn gryno
Mae’r cwrs hwn y canolbwyntio ar ddatblygu’r egwyddorion sylfaenol a’r sgiliau ymarferol uwch y mae eu hangen yn niwydiant trin gwallt. Mae’n berffaith ar gyfer y rhai sydd wedi’u cyflogi mewn salon trin gwallt ar hyn o bryd a chynhelir pob asesiad yn y gweithle.
… unrhyw un sy’n gweithio/wedi’i gyflogi mewn amgylchedd salon trin gwallt ar hyn o bryd sydd â chleientiaid rheolaidd
… y rhai sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 mewn Trin Gwallt
… y rhai sy’n angerddol am faes trin gwallt
… unigolion sy’n gweithio’n galed ac sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu da.
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch chi’n astudio unedau megis
- Ymgynghori â chleientiaid
- Cywiro lliw a thechnegau lliw uwch
- Torri uwch a thorri creadigol
- Cynllunio a chyflwyno gweithgareddau hyrwyddo
- Dylunio gwallt hir yn greadigol ar gyfer ystod o ddigwyddiadau
- Gwallt ar gyfer priodasau
- Torri gwallt dynion
- Iechyd a Diogelwch
- Sgiliau Cyflogadwyedd
Bydd y cwrs hwn yn adeiladu ar eich sgiliau lefel ganolradd ym maes trin gwallt a bydd yn eich helpu chi i ddatblygu mwy o dechnegau creadigol.
Diploma Lefel 2 mewn Trin gwallt
Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, disgwylir i chi brynu’r cit priodol, gan ein cyflenwr cymeradwy, sy’n costio oddeutu £140, yn amodol ar adolygu/cynyddu pris.
I adlewyrchu disgwyliadau’r diwydiant, bydd gofyniad i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent i’w harchebu gan ein cyflenwr cymeradwy. Gallwch chi gael manylion am sut i archebu eich gwisg a dewisiadau talu’r cyflenwr gan eich Pennaeth Ysgol, eich Darlithydd, neu’ch Technegydd. Mae’r pris oddeutu £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau.
Gall costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
Mae'r holl gostau wrthi’n cael eu hadolygu a gallant newid.