Yn gryno
Mae'r sector barbro yn symud yn gyflym a bydd cyfle i ddysgu sgiliau newydd yn ystod ac ar ôl y rhaglen hyfforddi ddiddorol hon.
... Ydych chi am gael gyrfa fel barbwr
... Ydych chi'n gyfeillgar ac yn weithgar
... Ydych chi'n dwli ar waith creadigol a manw
Mae bod yn farbwr yn dod â llawer o fanteision y bydd cynllunwyr gwallt cymwys yn sôn amdanynt wrthych. Os ydych chi'n ystyried dod yn farbwr, dyma'r prif resymau dros ei wneud:
-
Gallwch fod yn greadigol
-
Cwrdd â phobl newydd
-
Bydd cael gyrfa mewn barbro yn rhoi cyfle i chi fod yn hyblyg gyda'ch oriau gwaith
-
Byddwch yn gallu darparu amrywiaeth o wasanaethau
-
Mae'n foddhaus ac yn werth chweil
Dyluniwyd ein cwrs ar gyfer pobl sydd â diddordeb gyrfaol mewn barbro, ac mae'n ddelfrydol os nad oes gennych lawer, neu ddim profiad neu sgiliau mewn barbro. Byddwn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid wrth ddelio â chleientiaid a sgiliau cyflogadwyedd ar gyfer pob math o swyddi.
Byddwch yn dysgu am:
-
Ymgynghoriadau â chleientiaid
-
Sgiliau derbynfa
-
Defnyddio siampŵ
-
Chwythu sych
-
Torri gwallt a barfau sylfaenol
Bydd disgwyl i chi fynychu lleoliad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd, naill ai'n wythnosol neu fesul bloc. Gellir trefnu hyn naill ai’n annibynnol neu bydd eich tiwtoriaid yn eich cefnogi i ddod o hyd i leoliad addas.
Darperir y cwrs drwy:
-
Ddosbarthiadau theori
-
Gweithdai ymarferol
-
Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg
-
Sesiynau masnachol
-
Arddangosiadau
-
Gwaith grwp
-
Lleoliad gwaith
-
Gweithgareddau cyfoethogi megis teithiau, ymweliadau, siaradwyr gwadd ac arddangosiadau allanol.
Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau ymarferol, aseiniadau, prosiectau a phrofion amlddewis ar-lein a fydd yn tanategu gwybodaeth greiddiol. Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn ennill:
-
VRQ Lefel 2 mewn Barbro
-
Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
-
Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau cymunedol ac arddangosiadau)
Bydd angen i chi fod yn hunan-gymhellol, yn weithgar, yn gyfeillgar a meddu ar lefel uchel o gyflwyniad personol. Bydd disgwyl i chi fynychu lleoliad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd. Bydd yr holl ddarpariaeth yn cymryd lle ar y campws a bydd un noson yr wythnos pan fyddwch yn y coleg tan yn hwyr. Presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yw un o brif ofynion y cwrs hwn.
Bydd disgwyliad i chi fynychu lleoliad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd. Cyflwynir y cwrs ar y campws a bydd un noson yr wythnos pan efallai y byddwch chi yn y coleg tan hwyr y nos.
Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yn brif ofyniad ar gyfer y cwrs hwn.
NVQ Lefel 2 mewn Barbro neu gyflogaeth ar lefel prentis iau
O leiaf 3 TGAU ar radd D neu’n uwch, gan gynnwys: Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol. Bydd ymgeiswyr heb yr isafswm TGAU yn cael eu hystyried ar sail profiad blaenorol neu gymwysterau eraill.
Cod Gwisg:
-
Rhaid gwisgo tiwnig gyda throwsus ac esgidiau duon mewn salonau
-
Rhaid clymu gwallt yn daclus yn ôl ac i ffwrdd o’r wyneb
-
Ni ddylid gwisgo unrhyw estyniadau ewinedd a farnais
-
Dim tyllu: dim ond modrwy briodas y caniateir ei gwisgo yn y salon
Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, disgwylir i chi brynu’r cit priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy ar gost o oddeutu £300.
I adlewyrchu disgwyliadau’r diwydiant, bydd yn ofynnol i chi wisgo tiwnig salon Coleg Gwent, i’w archebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gallwch chi gael manylion am sut i archebu eich tiwnig a’ch cit, ynghyd ag opsiynau talu’r cyflenwr, gan eich Pennaeth Ysgol, eich Darlithydd neu’ch Technegydd. Pris y tiwnig ar gyfer 2026/2027 yw £27.30* a phris crys polo Barbwr yw £10.50*