• Llawn Amser
  • Lefel 2

City & Guilds Diploma NVQ mewn Trin Gwallt Lefel 2

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Maes Pwnc Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol
Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn lluosog
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
2

Yn gryno

Mae Lefel 2 Trin Gwallt yn adeiladu ar y sgiliau sylfaenol a ddatblygir ar Lefel 1 Trin Gwallt ac yn eich gosod ar y llwybr tuag at weithio fel triniwr gwallt proffesiynol. Mae'r cwrs yn seiliedig ar weithio yn ein salonau hyfforddi proffesiynol gyda chleientiaid.

... Rydych chi wedi cwblhau cwrs Trin Gwallt Lefel 1 neu Lefel 1 Gwallt a Harddwch

... Rydych chi'n barod i adeiladu eich sgiliau trin gwallt mewn lleoliad byd go iawn

... Rydych chi'n paratoi ar gyfer rolau cyffrous mewn salonau, neu â diddordeb mewn cychwyn eich busnes eich hun

Mae'r sector trin gwallt yn symud yn gyflym a byddwch yn gweithio mewn salonau coleg i gael dealltwriaeth fanwl o'r sgiliau sydd eu hangen i weithio fel triniwr gwallt.

Hyfedredd Technegol: Datblygu amrywiaeth o dechnegau torri, lliwio a steilio a fydd yn eich gosod ar wahân yn y diwydiant.

Cyfathrebu: Dysgu ymgysylltu'n effeithiol â chleientiaid, deall eu hanghenion, a meithrin perthnasoedd parhaol.

Creadigrwydd: Datblygwch eich steil personol a dysgwch sut i greu edrychiadau sy'n apelio at gwsmeriaid amrywiol

Proffesiynoldeb: Deall pwysigrwydd cynnal delwedd ac amgylchedd proffesiynol yn eich ymarfer.

Cyflwynir y cwrs trwy gyfuniad o weithdai theori ac ymarferol ac mae wedi'i seilio'n helaeth mewn sesiynau salon masnachol.

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn:

  • Sgyrsiau diwydiant gan arbenigwyr ym maes trin gwallt
  • Cystadlaethau mewnol a’r cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru a’r DU/Sgiliau’r
  • Byd Cyfweliadau diwydiant

Byddwch yn gweithio ar ddatblygu eich sgiliau mewn ystod o sesiynau ymarferol a theori, gan weithio tuag at asesiadau yn eich sgiliau a'ch dealltwriaeth o'r sector. Mae yna nifer o arholiadau ar-lein yn ogystal ag ystod o asesiadau ymarferol gyda chleientiaid.

O ran cymwysterau, mae angen o leiaf Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt neu Ddiploma Lefel 1 mewn Gwallt a Harddwch, a naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith 1af gradd D neu uwch. Byddwch yn barod i weithio o fewn lleoliad salon hyfforddi proffesiynol, gan weithio gyda chleientiaid dan oruchwyliaeth fel rhan o'ch datblygiad yn y diwydiant.

You will be ready to work within the setting of a professional training salon, working with clients under supervision as part of your development in the industry.

Lefel 3 mewn Trin Gwallt neu gyflogaeth ar lefel prentis uwch.

Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt neu Ddiploma Lefel 1 mewn Gwallt a Harddwch, a naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith 1af gradd D neu uwch.

Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Y gost am hyn yw tua £82 - £91, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.

I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Y pris yw £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.

Gall costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Mae'r holl gostau wrthi’n cael eu hadolygu a gallant newid.

Parth Dysgu Blaenau Gwent

Côd y Cwrs
EFDI0023AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFDI0023AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Campws Dinas Casnewydd

Côd y Cwrs
NFDI0023AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy