Yn gryno
Mae artistiaid colur yn dyfeisio ac yn rhoi colur i gyfleu ymdeimlad o ddrama, p’un a yw ar gyfer ffilm, theatr, ffotograffau neu lwyfan cyfryngau cymdeithasol. Bydd cymhlethdod a’r math o gysyniad yn amrywio yn dibynnu ar y cynhyrchiad a'r cymeriad, ond gall artistiaid colur da gyfleu ystod eang o edrychiadau ar draws amrywiaeth o genres.
Wrth weithio fel artist colur, ceir amrywiaeth o lwybrau dilyniant. Mae natur lawrydd y proffesiwn yn golygu y gallwch symud rhwng bod yn gynorthwyydd colur dan hyfforddiant, artist colur, prif artist colur a rolau dylunio, yn dibynnu ar eich profiad.
... Oes gennych ddyheadau o fod yn artist colur
... Oes gennych ddiddordeb arbennig mewn theatr neu ffilm
... Ydych yn greadigol ac yn gweithio'n galed
Fel artist colur, rydych chi’n gyfrifol am roi colur ar bobl a steilio gwallt ar gyfer pobl sy’n ymddangos mewn ffilmiau, rhaglenni teledu, sesiynau ffotograff neu ddigwyddiadau byw fel cyngherddau, dramâu neu sioeau ffasiwn. Mae trin gwallt yn chwarae rhan fawr yn y cwrs hwn ac mae’r diwydiant yn cyflogi unigolion amryddawn sy’n gallu rhoi colur ymlaen a steilio gwallt mewn un sesiwn.
Eich swydd fyddai creu’r edrychiad mae’r person ei angen ar gyfer y math o gynhyrchiad neu ddigwyddiad.
Byddwch yn dysgu technegau trin gwallt sylfaenol a sgiliau colur penodol i’r cyfryngau gan gynnwys:
- Colur ar gyfer y llwyfan
- Heneiddio ar gyfer y llwyfan
- Effeithiau arbennig
- Lleoliad gwaith
- Gwneud wig
- Trin gwallt sylfaenol
- Defnyddio darnau gwallt
- Colur ffasiwn
- Colur ffotograffig
- Colur cyfnod
- Peintio wynebau
- Dylunio celf corff
- Darparu celf ewinedd
Byddwch yn cael eich asesu trwy aseiniadau ymarferol ac aseiniadau ar thema, portffolio o waith a chwestiynau prawf amlddewis. Ar ôl cwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Lefel 2 Trin Gwallt a Cholur y Cyfryngau
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Saesneg a Mathemateg (os nad ydych wedi ennill gradd C neu uwch ar lefel TGAU)
- Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau cymunedol ac arddangosiadau)
I gael mynediad i’r cwrs, bydd angen i chi feddu ar o leiaf 3 chymhwyster TGAU, gradd D neu uwch, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 perthnasol A meddu ar ddawn greadigol neu dystiolaeth o waith celf.
Bydd ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau TGAU gofynnol yn cael eu hystyried yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill.
Diploma Lefel 3 mewn Colur Theatrig ar Cyfryngau, cyflogaeth neu addysg bellach., employment or further education.
I gael mynediad i’r cwrs, bydd angen i chi feddu ar o leiaf 3 chymhwyster TGAU, gradd D neu uwch, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 perthnasol A meddu ar ddawn greadigol neu dystiolaeth o waith celf.
Bydd ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau TGAU gofynnol yn cael eu hystyried yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill.
Mae cod gwisg ac ymddangosiad yn agwedd bwysig iawn ar y cwrs hwn ac rydym yn gofyn i chi gadw at y canlynol:
- Mae’n rhaid gwisgo tiwnig gyda throwsus ac esgidiau du synhwyrol yn y salonau
- Rhaid i wallt gael ei glymu yn daclus yn ôl o'r wyneb a rhaid gwisgo colur er mwyn creu delwedd broffesiynol
- Dim tyllau corff gweladwy
- Modrwy briodas yn unig a ganiateir ei gwisgo yn yr ystafell colur.
Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy, cost i'w gadarnhau.
I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Y pris ar gyfer 2024/2025 yw £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.
Gall costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
Mae'r holl gostau wrthi’n cael eu hadolygu a gallant newid.