Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Ydych chi ffansi ymuno â’r ‘gweithwyr hapusaf yn y DU’ yn ôl sawl arolwg cenedlaethol? Yna rhowch y sgiliau, y profiad a’r ymdrech i chi’ch hun i lwyddo ym myd amrywiol a chyffrous trin gwallt neu therapi harddwch.
Trin Gwallt
Bydd y cwrs hwn yn sicrhau eich bod yn wych wrth gyfuno sgiliau cyfathrebu rhagorol, dawn greadigol a sylw i fanylion ac yn gallu cynnal yr ymgynghoriadau cleient hollbwysig hynny a chwblhau steiliau gyda sgil a dod yn steilydd hyfedr a llwyddiannus.
Therapi Harddwch
Peidiwch byth â thanbrisio therapydd harddwch da! Mae’r teimlad rhyfeddol y gallwch ei roi i bob cleient yn amhrisiadwy. Ond nid ydych wedi’ch cyfyngu i’r ystafell harddwch neu’r bar ewinedd yn unig. Gallwch gamu allan o’r salon a dilyn gyrfa yn y maes ymgynghoriaeth harddwch neu brynu neu werthu cynnyrch harddwch. Pob blwyddyn mae graddedigion Coleg Gwent yn mynd ymlaen i weithio ar longau mordaith sy’n rhoi’r cyfle i deithio wrth weithio yn y diwydiant gwerth chweil hwn.
Therapïau Cyflenwol
Sector arloesol sy’n tyfu, mae gyrfaoedd mewn iechyd cyfannol a lles yn rhoi llawer o foddhad. Mae yna alw mawr am therapyddion medrus, cymwysedig mewn ystod o therapïau – o aromatherapi i adweitheg i dylino. Byddwch yn ennill sgiliau a thechnegau ymarferol wedi’u hategu gan y theori sylfaenol.
Colur Theatraidd
Fel artist colur, byddech chi’n gwneud colur ac yn steilio gwallt unrhyw un sy’n ymddangos o flaen camera neu gynulleidfa fyw. Gallech weithio mewn ffilm, ar y teledu, yn y theatr, mewn cyngherddau, sesiynau ffotograffiaeth neu sioeau ffasiwn. O steil naturiol ar gyfer y teledu, i ddefnyddio wigiau a gwallt gosod ar gyfer dramâu cyfnod neu ddefnyddio prosthetigau ar gyfer cynyrchiadau arswyd – nid yw bywyd artist colur byth yn ddiflas. Gallech weithio ar eich pen eich hun, neu gynorthwyo cydweithiwr, neu fod yn rhan o dîm dylunio gwallt a cholur mwy. Mae’r posibiliadau’n ddi-ben-draw!
Chwythsychu
Parth Dysgu Blaenau Gwent |
Rhan Amser (Dydd) | Gweld y cwrs |
City & Guilds Diploma mewn Trin Gwallt Lefel 2
Campws Crosskeys |
Dysgu Agored/o Bell | Gweld y cwrs |
City & Guilds Diploma mewn Trin Gwallt Lefel 3
Campws Crosskeys |
Dysgu Agored/o Bell | Gweld y cwrs |
Gwallt i Fyny
Parth Dysgu Blaenau Gwent |
Rhan Amser (Noswaith) | Gweld y cwrs |
Triniaethau Dwylo i Ddechrewyr
Parth Dysgu Blaenau Gwent |
Cwrs Byr | Gweld y cwrs |
VTCT Dyfarniad mewn Dylunio Celf Corff Lefel 2
Campws Crosskeys |
Rhan Amser (Noswaith) | Gweld y cwrs |
VTCT Dyfarniad mewn Estyniadau Amrannau Lefel 3
Parth Dysgu Blaenau Gwent |
Rhan Amser (Dydd) | Gweld y cwrs |
VTCT Dyfarniad yng Nghelfyddyd Colur Ffotograffig Lefel 2
Campws Crosskeys |
Rhan Amser (Noswaith) | Gweld y cwrs |
VTCT Dyfarniad Rhoi Colur Sylfaenol Lefel 1
Parth Dysgu Blaenau Gwent |
Rhan Amser (Dydd) | Gweld y cwrs |
VTCT Astudiaethau Gwallt a Cholur i'r Cyfryngau Lefel 2
Campws Crosskeys |
Rhan Amser (Dydd) | Gweld y cwrs |
Sicrhewch eich bod yn teimlo’n gyffyrddus â’r amgylchedd; astudiais i fy nwy flynedd gyntaf mewn coleg arall cyn trosglwyddo i’r coleg hwn oherwydd roedd well gen i’r fan yma.
Elle Rogers
L3 Beauty student
Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr