En

Cyfrifeg a Busnes

Mae'r Ystafell Bwrdd yn barod...

Mae’r byd busnes yn symud yn gyflym. Mae’n gyffrous ac yn egnïol. Os ydych yn barod am y daith, mae ein cyrsiau cyfrifeg, busnes a’r gyfraith yn berffaith ar eich cyfer chi. Efallai eich bod wedi rhoi eich bryd ar weithio i gorfforaeth fawr, neu eisiau cychwyn un eich hun; mae pawb yn cychwyn yn rhywle. Felly, beth am gychwyn yma?

Mae bywyd modern ar y cyfan yn cael ei reoli gan fusnes. Mae ein cyrsiau busnes yn trafod y byd busnes yn ei gyfanrwydd, gan roi’r llwyfan i chi arbenigo yn eich maes o arbenigedd neu ddiddordeb yn y brifysgol neu yn y gwaith.

Marchnata, Adnoddau Dynol, cyllid, rheoli, masnachu, yswiriant a bancio… mae’r byd busnes o fewn eich cyrraedd!

Mae Cyfrifeg yn llawer mwy na rhifau a thaenlenni. Gallwch astudio mewn busnes, ymarfer neu fancio, ac unwaith y byddwch yn gymwys gwelir cyfrifwyr siartredig yn gweithio ar lefel uwch ledled y byd.  Gallwch fod yn arbenigwr cyllidol yng nghanol pob maes o fewn busnes.

Mae’r cyfrifwr cyfoes yn gweithio mewn sawl maes, o adferiad corfforaethol ac ymgynghori i gyfrifo fforensig. Gallant fod yn gweithio ar draws y byd, o Ynysoedd y Cayman i Frasil. I ble fydd eich cwrs cyfrifo yn eich arwain chi?

Ein cyrsiau llawn amser Ein cyrsiau rhan amser

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Porwch drwy ein cyrsiau isod neu cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth.

12 cwrs ar gael

Rwy’n hoffi’r amrywiaeth o bethau rydyn ni’n dysgu amdanyn nhw ar y cwrs Busnes. Mae’n cwmpasu’r holl wahanol fathau o fusnesau, sut i sefydlu eich busnes eich hun, cyllid, sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm. Rydw i bellach wedi datblygu sgiliau sylfaenol oedd gen i’n flaenorol hyd yn oed yn fwy, ac rwyf wedi sicrhau swydd cyn gynted ag y byddaf yn gorffen fy nghwrs!

Jess Mason
Diploma Estynedig BTEC Astudiaethau Busnes, Lefel 3

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau