Yn gryno
Mae ein Cyrsiau Astudiaethau Galwedigaethol wedi eu dylunio i’ch cyflwyno i faes astudiaeth sydd o ddiddordeb i chi a’ch helpu i ddatblygu sgiliau dysgu ehangach.
… You’re unsure about what to do or what to specialise in
… You want to try more than one vocational area
… You want to gain a great insight into college life
Bydd y cwrs yma yna roi ystod o gyfleoedd dilyniant i chi gan gynnwys dysgu pellach yn y coleg ar un o’n cyrsiau ar y lefel nesaf, prentisiaeth neu gyflogaeth!
Cewch gyfle i brofi mwy nag un maes galwedigaethol a datblygu sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy drwy gwblhau tasgau sy’n canolbwyntio ar ddangos beth allwch ei wneud a’r hyn rydych wedi ei ddysgu. Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau ac asesiadau ymarferol.
Mae’r unedau craidd yr un fath ar draws ein holl gyrsiau Astudiaethau Galwedigaethol sy’n eich helpu i ddatblygu eich sgiliau o fewn y maes rydych wedi ei ddewis. Os byddwch am newid i gwrs gwahanol, gallwch drosglwyddo'r unedau sydd wedi eu hastudio ar y cwrs i’ch cwrs nesaf os oes angen.
Bydd yr unedau craidd yn cynnwys:
- Bod yn drefnus
- Creu cynllun datblygu
- Gweithio gydag eraill
- Ymchwilio i bwnc
Gall yr unedau Busnes, TGCh, Teithio a Thwristiaeth a Gwasanaethau Cyhoeddus gynnwys:
- Datblygu Gwybodaeth Ddigidol gan Ddefnyddio TG
- Defnyddio Technolegau Cyfathrebu Digidol
- Creu taenlen i Ddatrys Problemau
- Creu Gwefan
- Trefnu Cyfarfod
- Brandio Cynnyrch
- Cyflwyno Syniad Busnes
- Cyfrannu tuag at gynnal Digwyddiad
- Cofnodi Incwm a Gwariant
- Cyfathrebu gyda Chwsmeriaid
- Cymryd rhan mewn profion ffitrwydd
- Ymateb i Ddigwyddiad
- Cynllunio ac Arwain Taith
- Cyfrannu at eich Cymuned
- Archwilio Atyniadau Lleol i Ymwelwyr
- Archwilio Teithio a Thwristiaeth yn y DU
- Darparu Gwasanaeth Cwsmer mewn Lletygarwch a Thwristiaeth
Pa gymwysterau y byddwch yn eu cael
- Diploma BTEC Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg (os nad ydych wedi ennill gradd C neu uwch ar lefel TGAU)
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
There are no formal requirements. However, an interest in learning about the different vocational areas is necessary. You’ll need to be motivated, hardworking and willing to try new things. There’ll be an expectation that you practise skills and techniques in realistic work environments within college, allowing you to build on your employability skills. Attendance and punctuality for all sessions is a compulsory requirement of this course.
- Gallech barhau eich astudiaethau ar Lefel 2 mewn maes galwedigaethol o’ch dewis
- Gallech fynd yn eich blaen i ddilyn prentisiaeth
- Gallech gael swydd yn eich dewis faes
Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol. Fodd bynnag, mae diddordeb mewn dysgu am y gwahanol feysydd galwedigaethol yn angenrheidiol.
Gall costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.