Yn gryno
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn ennill sgiliau cyllid a chyfrifeg ymarferol, a gydnabyddir yn rhyngwladol a chewch eich paratoi ar gyfer arholiadau allanol AAT (Y Gymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu). Mae'r cwrs yn cynnig llwybr gwych at ddod yn gyfrifydd siartredig.
... Ydych yn mwynhau gweithio gyda rhifau
... Ydych eisiau gweithio mewn lleoliad cyfrifeg
... Oes gennych eich bryd ar weithio gydag awdurdodau lleol, cwmnïau yswiriant, banciau neu bractisau cyfrifeg
... Hoffech anelu'n uwch gydag astudiaeth bellach
Mae’r Dystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg yn mynd i’r afael ag ystod eang o sgiliau cyfrifeg craidd, yn ogystal â sgiliau busnes a sgiliau personol yn ymwneud â chyfrifeg. Mae themâu allweddol drwy gydol maes cymwysterau cyfrifeg, gan gynnwys technoleg, moeseg, cynaliadwyedd a chyfathrebu. Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys pedair uned hanfodol:
- Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon
- Egwyddorion Rheolaethau Cadw Cyfrifon
- Egwyddorion Prisio
- Yr Amgylchedd Busnes
Diben y cymhwyster hwn yw sicrhau bod myfyrwyr wedi'u paratoi yn llawn i fynd ymlaen i yrfa fusnes, cyllid neu gyfrifeg broffesiynol neu addysg bellach.
Byddwch yn datblygu sgiliau cyfrifeg mewn cadw cyfrifon cofnod dwbl a chostiad sylfaenol, yn ogystal â dealltwriaeth o brynu, gwerthu a chyfriflyfrau cyffredinol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd cyfrifeg a datblygu'r sgiliau a'r ymddygiadau proffesiynol sydd eu hangen i gyfrannu'n effeithiol yn y gweithle. Hefyd byddwch yn dysgu sgiliau TG a dealltwriaeth o'r amgylchedd busnes. Byddwch yn cael eich cyflwyno i elfennau o gyfraith contract, cyfraith cyflogaeth a chyfraith cwmni.
Asesir tair uned yn unigol mewn arholiadau diwedd uned.
Bydd hefyd angen i chi sefyll asesiad synoptig sy’n ymdrin ac yn asesu gwybodaeth a dealltwriaeth ar draws nifer o unedau.
Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol drwy aseiniadau ac arholiadau, a byddwch yn awyddus i barhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Ar ôl dechrau'r cwrs, bydd angen i chi wneud ymrwymiad llawn i bresenoldeb, dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun.
Bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi i ennill cyflogaeth gyda hyder a/ neu symud ymlaen i'r Dystysgrif AAT Lefel 3 mewn Cadw Cyfrifon neu Ddiploma AAT Lefel 3 mewn Cyfrifeg.
Gallai sgiliau a ddatblygir drwy’r cymhwyster hwn arwain at gyflogaeth fel:
- Gweinyddwr Cyfrifon
- Cynorthwyydd Cyfrifon
- Clerc Cyfrifon Taladwy
- Clerc Cyfeirlyfr Prynu/Gwerthu
- Technegydd Cyfrifeg dan hyfforddiant
- Cynorthwyydd Cyllid dan hyfforddiant
GCSE Maths and English Grade C or above is preferable. However, if you have a Grade D or equivalent, you’ll be able to enrol on the course but will be expected to complete GCSE Maths and English alongside your studies.
Os oes gennych unrhyw brofiad cyfrifeg neu ariannol blaenorol, gallwch sefyll gwiriad sgiliau ar-lein yn www.aatskillcheck.org/ i'ch helpu i benderfynu a ddylech ddechrau Tystysgrif Lefel 2 neu Ddiploma Lefel 3. www.aatskillcheck.org/ to enable you to decide whether to start at Level 2 Certificate or Level 3 Diploma.
I astudio cwrs AAT, mae angen i chi gofrestru â’r AAT fel myfyriwr. Bydd y coleg yn talu am eich cofrestriad gyda’r AAT. Bydd angen i chi hefyd gofrestru â’r coleg.
Bydd angen i chi brynu llyfrau gwaith, a fydd yn costio tua £55. Bydd gofyn i chi hefyd dalu blaendal o £35 am lyfrau tiwtorial. Bydd eich blaendal yn cael ei ad-dalu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, cyn belled â bod y llyfrau’n cael eu dychwelyd mewn cyflwr da.