Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn dilyn cwrs Tystysgrif Sylfaen AAT Lefel 2 a bydd yn eich galluogi chi i ennill sgiliau pellach ym maes cyfrifyddu.
… Ydych wedi cwblhau Tystysgrif Sylfaen Lefel 2 AAT mewn Cyfrifeg
… Ydych am ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth ym maes cyfrifeg
… You want to work in an accountancy setting.
Cynigir y cwrs llawn amser proffesiynol Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifeg (AAT) mewn nifer cyfyngedig o leoedd ar draws de Cymru.
Bydd y cwrs yn ymdrin ag ystod o dasgau cyfrifeg cymhleth, gan gynnwys cynnal cofnodion cyfrifeg cost a pharatoi adroddiadau ac enillion. Mae themâu allweddol drwy gydol y cymhwyster yn cynnwys technoleg, moeseg, cynaliadwyedd a chyfathrebu.
Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys pedair uned hanfodol:
• Ymwybyddiaeth Busnes
• Cyfrifyddu Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol
• Technegau Cyfrifeg Rheoli
• Prosesau Treth ar gyfer Busnesau
Mae'r ddwy uned yn cael eu hasesu’n unigol drwy asesiadau diwedd uned ar gyfrifiadur.
Byddwch yn cael y cymwyster canlynol:
- Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg
Er mwyn cael eich derbyn ar y cwrs yma, bydd rhaid i chi gael eich cyflogi yn y diwydiant a gallu dangos sgiliau perthnasol (yn unol â rhestr wirio AAT ar gyfer mynediad uniongyrchol) neu gwblhau Diploma Lefel 2 mewn Cyfrifeg a Busnes.
Bydd angen i chi ymrwymo’n llawn i fod yn bresennol, parchu eraill, dangos brwdfrydedd am y pwnc a chael hunan-gymhelliant. Cewch eich asesu’n barhaus a byddwch yn parhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.
- Diploma AAT Lefel 4 mewn Cyfrifyddu Proffesiynol, y gallwch ei astudio’n llawn amser neu’n rhan amser yn Coleg Gwent.
- Ar ôl cwblhau’r cymhwyster, gall myfyrwyr ymgymryd yn llwyddiannus â rôl ym maes cyllid.
Gallai sgiliau a ddatblygir drwy’r cymhwyster hwn arwain at gyflogaeth fel:
•Cynorthwyydd Cyfrifon
•Goruchwyliwr Cyfrifon Taladwy a Chostau
•Cyfrifydd Ariannol Cynorthwyol
•Archwilydd dan Hyfforddiant
•Rheolwr Credyd
•Cynorthwyydd Cyllid
•Swyddog Cyllid
•Goruchwyliwr Cyflogres
•Uwch Geidwad Cyfrifon
•Cynorthwyydd Treth.
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg
- Cyfweliad gyda'r tiwtor os nad oes gennych yr uchod
neu
I astudio cwrs AAT, mae angen i chi gofrestru â’r AAT fel myfyriwr. Bydd angen i chi gofrestru gydag AAT am gost o tua £230. Bydd angen i chi gofrestru gyda'r coleg hefyd.
Bydd angen i chi brynu llyfrau gwaith, a fydd yn costio tua £150.