Yn gryno
Mae'r Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifeg Proffesiynol yn sicrhau'r cyfleoedd cyflogaeth gorau yn y maes cyfrifeg. Mae’n cwmpasu pynciau uwch mewn cyfrifeg ac ariannu, gan gynnwys sgiliau rheoli ariannol, drafftio datganiadau ariannol, argymell strategaethau systemau cyfrifo, a chyflwyno adroddiadau cyfrifeg rheoli cymhleth. Byddwch hefyd yn dysgu am reoli credyd, rheoli arian parod, a themâu allweddol fel technoleg, moeseg, cynaliadwyedd a chyfathrebu. Astudiwch gyda thiwtoriaid profiadol AAT yng Ngholeg Gwent i gwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus.
...rydych wedi cwblhau’r Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg yn llwyddiannus ac eisiau parhau i adeiladu eich sgiliau cyfrifeg
...hoffech fynd ymlaen i ddod yn aelod llawn o’r AAT a/neu astudio am statws cyfrifydd siartredig
...hoffech ddechrau eich busnes eich hun trwy’r cynllun i aelodau trwyddedig AAT
Byddwch yn gwella'r sgiliau a ddatblygwyd gennych yn y Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg, byddwch yn meithrin sgiliau cyfrifeg a chyllid proffesiynol a fydd yn ddefnyddiol drwy gydol eich gyrfa yn y maes cyfrifyddu.
Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys tair uned orfodol a dwy uned arbenigol. Mae'r unedau gorfodol yn cynnwys:
- Cyfrifyddu Rheoli Cymhwysol
- Drafftio a Dehongli Datganiadau Ariannol
- Systemau a Rheolaethau Cyfrifo Mewnol
Yr unedau arbenigol yw:
- Rheolaeth Ariannol a Rheoli Arian Parod
- Rheoli Credyd a Dyled
Mae TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg yn ddymunol.
Ar ôl dechrau'r cwrs, bydd angen i chi ymrwymo’n llawn i bresenoldeb, dangos parch at eraill, bod yn frwdfrydig ac yn hunanysgogol.
Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus drwy aseiniadau ac arholiadau, a byddwch yn awyddus i barhau â’ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs ar eich liwt eich hun.
Bydd angen i chi brynu llyfrau gwaith, a fydd yn costio tua £60.00. Bydd gofyn i chi hefyd dalu blaendal o £35.00 am lyfrau tiwtorial. Bydd eich blaendal yn cael ei ad-dalu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, cyn belled â bod y llyfrau’n cael eu dychwelyd mewn cyflwr da.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, ac ar ôl bodloni meini prawf yr AAT, gallwch wneud cais am aelodaeth lawn o’r AAT, a fydd yn caniatáu i chi ddefnyddio’r llythrennau MAAT ar ôl eich enw.
Fodd bynnag, canlyniad sylfaenol a phwysicaf y Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifeg Broffesiynol yw y gall arwain at amrywiaeth eang o swyddi cyfrifeg a chyllid sy’n talu’n dda, y mae rhai ohonynt yn cynnwys:
- Technegydd Cyfrifyddu Proffesiyno
- Archwilydd Cynorthwyol
- Cyfrifydd Rheoli Cynorthwyo
- Dadansoddwr Masnachol
- Rheolwr y Gyflogres
- Uwch Geidwad Llyfrau
- Uwch Swyddog Ariannol
- Goruchwyliwr Cyfrifon Taliadwy a Threuliau
- Cyfrifydd Ariannol Cynorthwyol
- Cyfrifydd Costau
- Cyfrifydd Asedau Sefydlog
- Rheolwr Treth Anuniongyrchol
- Rheolwr Taliadau a Bilio
- Uwch Gyfrifydd y Gronfa
- Uwch Weinyddwr Ansolfedd
- Cyfrifydd TAW
Mae cwblhau'r cwrs hwn hefyd yn cynnig llwybr carlam i statws cyfrifydd siartredig gan y bydd AAT yn rhoi eithriadau hael i chi rhag holl gyrff siartredig ac ardystiedig y DU.
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y cwrs hwn mae angen i chi fod wedi cwblhau Diploma Uwch AAT Lefel 3 mewn Cyfrifeg neu gyfwerth yn llwyddiannus.
Os nad ydych yn siwr ai dyma’r lefel gywir i chi, ewch i aat.org.uk lle gallwch gwblhau’r prawf AAT Skillcheck neu i helpu i sicrhau eich bod yn dechrau ar y lefel gywir.
I astudio cwrs AAT, mae angen i chi gofrestru â’r AAT fel myfyriwr. Bydd y coleg yn talu am eich cofrestriad gyda’r AAT. Bydd angen i chi hefyd gofrestru â’r coleg.
Bydd angen i chi brynu llyfrau gwaith, a fydd yn costio tua £60.00. Bydd gofyn i chi hefyd dalu blaendal o £35.00 am lyfrau tiwtorial. Bydd eich blaendal yn cael ei ad-dalu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, cyn belled â bod y llyfrau’n cael eu dychwelyd mewn cyflwr da.