En

Newyddion Coleg Gwent

Coleg Gwent is going green - join us in the fight against climate change

Ymunwch â ni yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd

21 Tachwedd 2022

Mae newid hinsawdd yn un o heriau byd-eang mwyaf arwyddocaol ein hoes. Rydym am wneud cynaliadwyedd yn flaenoriaeth yn Coleg Gwent. Mae ein Tasglu Cynaliadwyedd wedi cynllunio ar gyfer y blynyddoedd i ddod, er mwyn parhau i wella ein coleg a lleihau ein heffaith amgylcheddol. Byddwn yn canolbwyntio ar deithio, cyflwyno mannau ailgylchu, ac adeiladu gweithlu mwy gwybodus.

Darllen mwy
Cŵn therapi yn cefnogi ein dysgwyr

Cŵn therapi yn cefnogi ein dysgwyr

18 Tachwedd 2022

Mae cyflogai newydd wedi ymuno â ni'r tymor hwn fel rhan o brosiect cymorth arloesol i fyfyrwyr - Pippa y Cavachon. Fel rhan o'r Prosiect Baxter, mae'r cyflogai gwallt cyrliog â chynffon chwim yn gweithio ochr yn ochr â'i phartner dynol Julie, i gynorthwyo myfyrwyr i ymlacio a bod yn agored ynghylch eu trafferthion.

Darllen mwy
A Royal visit for a special DofE event

Ymweliad Brenhinol ar gyfer digwyddiad arbennig DofE

10 Tachwedd 2022

Rydym wedi cael ymweliad arbennig iawn gan Iarll Wessex, heddiw, wrth iddo ymuno â myfyrwyr o bob rhan o Dde-ddwyrain Cymru ar gyfer diwrnod her arbennig Gwobr Dug Caeredin ym Mharth Dysgu Torfaen.

Darllen mwy

Llwyddo i Raddio: stori Erin

9 Tachwedd 2022

Ydych chi wastad wedi breuddwydio am fynd i’r brifysgol a chael gradd? Gwireddwch hyn yn Coleg Gwent! Cewch glywed am brofiad Erin o gwrs ar lefel prifysgol yn Coleg Gwent a sut yr aeth hi ati i wireddu ei breuddwyd.

Darllen mwy
public facilities at Coleg Gwent

Rhagor o gyfleusterau gwych ar agor i'r gymuned

8 Tachwedd 2022

A wyddoch chi fod nifer o'n cyfleusterau safon diwydiant yma yn Coleg Gwent ar agor i'r cyhoedd? Golygai hyn bod aelodau o'n cymunedau lleol yn gallu elwa ar y cyfleusterau sydd ar stepen eu drws, ochr yn ochr â'n dysgwyr a'n staff.

Darllen mwy

Llwyddo i gael lle yn un o’r prifysgolion gorau: Stori Hussain

7 Tachwedd 2022

Os ydych â’ch bryd ar fynd i’r brifysgol, gallwch wneud hynny yn Coleg Gwent! Llwyddodd Hussain i gael ei dderbyn i Brifysgol Caergrawnt i astudio Peirianneg Awyrofod ar ôl cwblhau cyrsiau Safon Uwch ar Gampws Crosskeys.

Darllen mwy