En
Coleg Gwent Creative Arts staff

Anrhydeddu Adran Celfyddydau Creadigol Ysbrydol y Coleg yng Ngwobrau Mawreddog Addysgu Cenedlaethol Pearson


21 Mehefin 2023

Dewiswyd Tîm o Goleg Gwent o blith miloedd o enwebiadau i ennill Gwobr Arian Addysgu Genedlaethol Pearson

Anrhydeddwyd Adran Celfyddydau Creadigol Coleg Gwent â Gwobr Arian Tîm Addysg Bellach y Flwyddyn am eu hymrwymiad rhagorol i newid bywydau’r plant y maent yn gweithio gyda nhw bob dydd.  

Mae adran y Celfyddydau Creadigol yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, o ffotograffiaeth a chynhyrchu cyfryngau i ddylunio gemau a cherddoriaeth. Cydnabyddwyd yr Adran Celfyddydau Creadigol, sydd gyda dros 40 aelod o staff, am ei chynnig o ddysgu arloesol, sy’n cynnwys cyfleoedd ar gyfer dysgu yn y diwydiant mewn lleoliadau megis Porsche automotive ac Opera Cenedlaethol Cymru, teithiau maes cyffrous, gweithgareddau allgyrsiol cyfoethog a chymorth gyda llesiant.  

Mae Adran y Celfyddydau Creadigol bellach wedi cyrraedd y rhestr fer i ennill un o dim ond 16 Gwobr Aur, a byddant yn cael eu cyhoeddi a dathlu mewn digwyddiad gala yn Llundain ar 25 Tachwedd a’u darlledu ar y BBC, gyda’r enillwyr yn cael eu harddangos ar The One Show.  

Cyhoeddwyd yr anrhydeddau ar Ddiwrnod Cenedlaethol Diolch i Athro, digwyddiad blynyddol sy’n dathlu rôl werthfawr mae addysgwyr ledled y DU yn ei chwarae mewn cymunedau a siapio pobl ifainc. Eleni, ymunwyd enwogion gan gynnwys Syr Michael Morpurgo, Edith Bowman, Bobby Seagull, Ore Oduba a Nadiya Hussain â myfyrwyr i nodi cyflawniadau eu hathrawon. 

Mae Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson yn ddathliad blynyddol o ragoriaeth mewn addysg sy’n cael ei redeg gan yr Ymddiriedolaeth Gwobrau Addysgu, elusen annibynnol sydd bellach yn ei 25ain blwyddyn, ac sy’n cydnabod y gwaith bywyd-newidiol sy’n digwydd ym myd addysg, gan amlygu’r rôl hanfodol y mae addysgwyr yn ei chwarae a’r gwaith a gyflwynir mewn ysgolion a cholegau bob dydd. 

Dywedodd Maria Retter, Pennaeth yr Ysgol — Celfyddydau Creadigol: 

Mae’n gwneud i mi deimlo’n falch iawn o fod yn rhan o’r tîm sydd wedi ennill y wobr fawreddog hon. Rydym ni i gyd yn mynd uwchben a thu hwnt  
bob dydd i wneud gwahaniaeth i fywydau’r myfyrwyr rydym ni’n eu haddysgu ac mae’n amlwg bod hyn wedi cael ei gydnabod yma heddiw. Llongyfarchiadau i bawb.

 

Meddai Sharon Hague, Uwch Is-lywydd Ysgolion yn Pearson UK:   

Hoffem longyfarch enillwyr yr Arian heddiw ar eu llwyddiannau anhygoel. Ni allwn ddiystyru’r cyfraniad enfawr y mae ysgolion yn ei wneud i fywydau ein pobl ifainc ac mae Adran Celfyddydau Creadigol Coleg Gwent yn enghraifft ysbrydoledig o’r effaith gadarnhaol y gall unigolyn ei chael ar ddisgyblion a chymunedau.

 

Llongyfarchiadau i’r tîm ar ennill y wobr o fri.