Celf, y Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth

Ydych chi’n greadigol? Os felly mae yna gyfoeth o gyfleoedd ar gael i chi. Dylunio ffasiwn, celf, ffotograffiaeth, animeiddio, mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Dewch i gael eich ysbrydoli gan ein tiwtoriaid arbenigol, y mae llawer ohonynt yn gweithio fel artistiaid, a dyluniwch ddyfodol disglair i chi’ch hun.
Celf a Dylunio
Mae ein cyrsiau celf a dylunio yn cynnig blas i chi o ddisgyblaethau sy’n gysylltiedig â chelf fel y gallwch benderfynu pa faes yr hoffech chi arbenigo ynddo yn y dyfodol.
Y Cyfryngau Creadigol
Mae gyrfaoedd yn y Cyfryngau Creadigol yn aml yn brysur ac yn gystadleuol iawn. Mae’r diwydiant bob amser yn newid ac mae’n cwmpasu ystod eang o sectorau gan gynnwys hysbysebu, dylunio, ffilm, llenyddiaeth, cerddoriaeth, ffasiwn, y celfyddydau, ffotograffiaeth, cyhoeddi, radio, teledu a mwy!
Y Cyfryngau Rhyngweithiol
Sut mae eich sgiliau gweithio mewn tîm? Mae rhannu gwybodaeth a thaflu syniadau yn hanfodol i unrhyw brosiect a disgwylir i bawb gyfrannu. Rhaid i bobl sy’n cael eu cyflogi yn y sector hwn fedru cyfathrebu’n glir a deall gofynion ei gilydd. Mewn cymdeithas sy’n ddibynnol iawn ar dechnoleg, mae’r sector hwn yn parhau i dyfu gan gynnig gyrfaoedd mewn animeiddio, dylunio gwe, datblygu gemau, dylunio apiau symudol ac effeithiau arbennig.
Ffotograffiaeth
Gyda’r datblygiadau mewn technoleg a thechnoleg smart, mae ffotograffiaeth yn faes gwaith hynod greadigol a deinamig i weithio ynddo. Stiwdio, llawrydd, dogfennol, artistig, chwaraeon, bwyd, pensaernïaeth, marchnata a ffasiwn – dim ond rhai o’r arbenigeddau y gallwch chi greu gyrfa ynddynt, gan ddechrau ar ein cyrsiau ffotograffiaeth. Mae’r holl gyrsiau yn canolbwyntio ar ffotograffiaeth ddigidol.
Ffasiwn
Mae mwy i yrfa mewn ffasiwn na chyffro a swyn y ‘catwalk’. Mae’n ddiwydiant sy’n newid yn gyson ac mae angen gweithwyr proffesiynol sy’n gallu ymateb i’w heriau. O farchnata a rheoli, i brynu a hyrwyddo, cymhwyster mewn ffasiwn yw eich cam cyntaf tuag at yrfa fywiog a chyffrous.
Arddangosiadau ac arddangosfeydd myfyrwyr
Pob blwyddyn mae’r campysau yn cynnal arddangosfeydd diwedd blwyddyn, sy’n gyfle gwych i ffrindiau, teulu a’r cyhoedd i weld gwaith y myfyrwyr.
Mae gan y Coleg gysylltiadau â Phrifysgol Cymru, Casnewydd a Phrifysgol Morgannwg, sy’n rhoi profiad ehangach a chyfleoedd dilyniant cadarn i fyfyrwyr.
Yn meddwl bod y pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Gwnewch gais nawrLawrlwytho Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth Taflen ffeithiau
Lawrlwytho
AIM Diploma mewn Sgiliau ar gyfer Gweithio yn y Diwydiannau Creadigol a Dylunio (Celf a Dylunio, Crefft, Cerddoriaeth, Perfformio a Digwyddiadau, y Cyfryngau a Ffotograffiaeth a Chyflogadwyedd) Lefel 2
Parth Dysgu Blaenau Gwent |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
BTEC Celf a Dylunio (Diploma Estynedig) Lefel 3
Parth Dysgu Blaenau Gwent |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
BTEC Celf a Dylunio (Diploma Estynedig) Lefel 3
Parth Dysgu Torfaen |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
BTEC Diploma Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol - Celf a'r Cyfryngau Creadigol Lefel 1
Campws Dinas Casnewydd |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
BTEC Diploma Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol - Celf a'r Cyfryngau Creadigol Lefel 1
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
BTEC Diploma Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol - Celf a'r Cyfryngau Creadigol Lefel 1
Parth Dysgu Torfaen |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio - Gemau
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
Gradd Sylfaen mewn Darlunio
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
Gradd Sylfaen mewn Cynhyrchu'r Cyfryngau
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
OCR Diploma Technegol Caergrawnt mewn Celf a Dylunio Lefel 2
Campws Dinas Casnewydd |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
OCR Diploma Technegol Caergrawnt mewn Celf a Dylunio Lefel 2
Parth Dysgu Torfaen |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
OCR Diploma Technegol Caergrawnt yn y Cyfryngau Digidol (Diploma Estynedig) Lefel 3
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
OCR Diploma Technegol Caergrawnt yn y Cyfryngau Lefel 2
Campws Dinas Casnewydd |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
OCR Diploma Technegol Caergrawnt yn y Cyfryngau Lefel 2
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
UAL Celf a Dylunio (Llwybrau mewn Celf a Dylunio, Ffotograffiaeth, Ffasiwn a Thecstilau) (Diploma Estynedig) Lefel 3
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
UAL Dylunio a Thechnoleg Ddigidol Greadigol (Diploma Estynedig) Lefel 3
Campws Dinas Casnewydd |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
UAL Diploma mewn Celf a Dylunio Lefel 2
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
UAL Diploma mewn Celf a Dylunio Lefel 3
Campws Dinas Casnewydd |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
UAL Diploma mewn Cynhyrchu a Dylunio mewn Cyfryngau Creadigol - Dylunio Gemau Lefel 3
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
UAL E-chwaraeon, Gemau a Digwyddiadau Busnes Amlgyfrwng (a elwir hefyd yn Gyfryngau Creadigol a Thechnoleg Cynhyrchu) Lefel 3
Parth Dysgu Blaenau Gwent |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
CBAC Diploma mewn Astudiaethau Sylfaenol (Celf a Dylunio) Lefel 3/4
Campws Dinas Casnewydd |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn celf ac roeddwn yn awyddus i barhau â’r pwnc yn coleg. Roedd Coleg Gwent yn fwy hyblyg na chweched dosbarth o ran fy newis pynciau Safon Uwch. Mae’r #coleg wedi fy helpu i weithio hyd eithaf fy ngallu ac mae’n hynod gefnogol.
Lauren Lilley
A Level Art
Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr